Grŵp Gwirfoddolwyr Fforwm Cydnerthedd Lleol Gwent

Mae asiantaethau gwirfoddol yn cyflawni swyddogaeth bwysig wrth ymateb i argyfyngau. Mae'r dudalen hon yn rhestru'r sefydliadau sy'n rhan o Grŵp Gwirfoddolwyr Fforwm Cydnerthedd Lleol Gwent.

  • Grŵp RAYNET Gwent - Mae'r Rhwydwaith Argyfwng Amaturiaid Radio yn darparu offer cyfathrebu i lenwi bylchau yn y rhwydweithiau cyfathrebu yn ystod digwyddiad. Gall yr offer anfon sain a data.
  • Ambiwlans Sant Ioan - Gallant ddarparu Cymorth Cyntaf, Ambiwlansiau, Meddygon Cymwysedig ac adnoddau Cymorth Cyntaf eraill. Gallant hefyd helpu i ddarparu gweithlu ychwanegol i weithio mewn canolfannau gorffwys a llochesau dros dro. 
  • Cymdeithas Achub Ardal Hafren (SARA) - Mae'r gymdeithas hon yn darparu gwasanaethau achub ar y glannau a chwilio ar long ac ar y tir ar gyfer Aber Afon Hafren a blaenau Afon Hafren.
  • WRVS (Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched gynt) - Mae'r WRVS yn darparu staff mewn canolfannau derbyn a chanolfannau gorffwys ac yn lleoliad y digwyddiad ei hun, a byddant yn ymgymryd â'r gwaith o gofrestru faciwîs. Gallant hefyd ddarparu gwasanaeth arlwyo ar gyfer personél sy'n ymateb i ddigwyddiad a dioddefwyr. 
  • Byddin yr Iachawdwriaeth - Gallant ddarparu prydau a byrbrydau ar gyfer ymatebwyr a dioddefwyr. Gallant hefyd ddarparu dillad a lloches, gwasanaeth dod o hyd i berthnasau, a staff i gynorthwyo â gofynion gweinyddol y digwyddiad.
  • Cymorth i Ddioddefwyr Gwent - Maent yn darparu cymorth cyfrinachol ac am ddim i ddioddefwyr.
  • Y Groes Goch Brydeinig - Gallant ddarparu Cymorth Cyntaf, gweithlu, Meddygon a Nyrsys cymwysedig, cerbydau, lloches, cymorth lles a nyrsio mewn Canolfannau Gorffwys a hefyd mewn Corffdai Dros Dro. Bydd y Groes Goch Brydeinig hefyd yn cydlynu cronfeydd apêl ar gyfer dioddefwyr y trychineb.
  • Cruse Bereavement Care - Mae'r gwasanaeth hwn yn bodoli i hybu lles pobl sydd mewn profedigaeth er mwyn eu helpu i ddeall eu galar ac ymdopi â'u colled.
  • Cymdeithas Chwilio ac Achub De Cymru - Hwn yw'r corff cydlynu ar gyfer De Cymru ac mae'n cynnwys Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, Tîm Achub Mynydd Canol y Bannau, Tîm Achub Mynydd Longtown, Tîm Achub Ogofâu De Cymru (SWCRO), Tîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau a Chymdeithas Cŵn Chwilio ac Achub Mynydd De Cymru (SARDA).
Diwygiwyd Diwethaf: 06/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Argyfyngau

Ffôn: 01495 762200

Nôl i’r Brig