Cyngor ar ddefnyddio a storio petrol gartref

Beth am storio petrolewm gartref?

Gallwch storio hyd at 20 litr o betrol mewn dau gynhwysydd metel 10 litr, neu 10 litr mewn dau gynhwysydd plastig pum litr yr un yn gyfreithlon (heb drwydded). Mae'n rhaid bod pob cynhwysydd wedi'i lunio at y diben hwnnw a rhaid bod y geiriau 'Gwirod petrolewm' a 'Tra fflamadwy' wedi'u hysgrifennu'n glir arnynt.

Dylech storio unrhyw gynwysyddion mewn garej neu sied nad yw'n agos i unrhyw adeiladau eraill. Peidiwch â'u cadw yn y tŷ. Gwnewch yn siwr fod yr ardal wedi'i hawyru'n dda a heb fod yn agos i unrhyw fflamau agored ac offer trydanol byw.

Archwiliwch y cynwysyddion yn rheolaidd am ollyngiadau. Os byddwch yn arogli petrol, agorwch ffenestri a drysau a gwnewch yn siwr nad oes unrhyw un yn ysmygu neu'n cynnau neu'n diffodd switshys trydan. Gallai'r wreichionen leiaf achosi ffrwydrad.

Sut gallaf i gludo petrolewm yn gyfreithlon?

At ddefnydd domestig - heblaw'r hyn sydd yn y tanc tanwydd - yr unig ffordd y cewch gludo petrol yw mewn cynwysyddion sydd wedi'u cau'n dynn, a luniwyd yn bwrpasol at y diben hwnnw ac sydd â'r geiriau 'Gwirod petrolewm' a 'Tra fflamadwy' wedi'u hysgrifennu arnynt. Gwnewch yn siwr eu bod wedi'u gosod yn ddiogel yng nghist y cerbyd pan fyddwch yn eu cludo.

Dim ond yn yr awyr agored y dylech lenwi'r tanc â phetrol o gynhwysydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/12/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Commercial Services

Ffôn: 01633 647263

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig