Safleoedd Gwersylla - Gwneud Cais am Drwydded

Safleoedd Gwersylla
Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych yn caniatáu i'ch tir gael ei ddefnyddio fel safle gwersylla gan y cyhoedd am dros 42 ddiwrnod yn olynol - neu 60 diwrnod mewn blwyddyn - bydd angen trwydded arnoch gan eich awdurdod lleol.

 

Gallai amodau fod ynghlwm wrth y drwydded.

 

Mae eithriadau i sefydliadau sydd â thystysgrifau eithrio ynghylch gwersylla.

Meini Prawf Cymhwysedd

Nid oes darpariaeth yn y ddeddfwriaeth 

Crynodeb o'r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno, ystyrir iddo gael ei wneud heb amodau oni bai bod yr awdurdod lleol yn hysbysu eu bod yn gwrthod y cais neu fod amodau ynghlwm wrtho.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan eich awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r awdurdod. Cewch wneud hyn ar-lein os cyflwynoch y cais trwy wasanaeth UK Welcomes.

Sut i wneud cais

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais o'r fan hon.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

 

Os gwrthodir rhoi trwydded i ymgeisydd, gall apelio i'w Lys Ynadon lleol.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn y lle cyntaf.

 

Gall deiliad trwydded gyflwyno apêl yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth drwydded i'w Lys Ynadon lleol.

Apeliadau a Chwynion

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/06/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol
Ffôn: 01633 647295

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig