Trwyddedu Safleoedd Carfannau a Gwersylla
Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor sy’n gyfrifol am gyflwyno trwyddedau ar gyfer safleoedd carafannau a gwersylla. Gallwch wneud cais i’r Cyngor am drwydded safle ar unrhyw bryd, ond ni roddir trwydded hyd nes y cewch chi ganiatâd cynllunio.
Bydd y drwydded yn cynnwys amodau'n ymwneud ag iechyd a diogelwch, cyfleusterau a diogelwch rhag tân. Fel arfer, bydd tair gwahanol set o amodau model yn cael eu defnyddio fel man cychwyn, yn ddibynnol ar y mathau o garafannau a osodir ar y safle. Hefyd, gallai'r Cyngor gyflwyno unrhyw amodau eraill a fyddai'n briodol, ym marn y Cyngor, ar gyfer safle unigol neu amgylchiadau penodol.
Ni chodir tâl am y drwydded. Bydd y Cyngor yn arolygu safleoedd carafannau trwyddedig yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau'r drwydded.
Mae Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn gwahardd defnyddio tir fel safle carafannau oni bai bod y meddiannwr yn dal trwydded safle a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol. Mae rhai eithriadau.
Mae'r eithriadau sydd wedi'u rhestru yn ddisgrifiadau bras ac nid oes bwriad iddynt fod yn ddiffiniadau cyfreithiol.
Dylid cyfeirio at Atodlen Un y Ddeddf i gael disgrifiad llawn o'r eithriadau.
- carafannau sydd wedi'u lleoli o fewn cwrtil annedd ac sy'n cael eu defnyddio'n gysylltiedig â'r annedd honno
- un garafán nad yw'n cael ei defnyddio am fwy na dwy noson yn olynol am gyfanswm o ddim mwy na 28 diwrnod yn ystod y 12 mis ers dod â'r garafán i'r tir yn wreiddiol
- daliadau sy'n fwy na 5 erw a lle nad oes mwy na 3 carafán yn cael eu gosod am uchafswm o 28 diwrnod yn ystod y 12 mis ers dod â'r garafán i'r tir yn wreiddiol
- safleoedd sy'n cael eu meddiannu a'u goruchwylio gan sefydliadau eithriedig
- safleoedd sy'n cael eu defnyddio am ddim mwy na 5 diwrnod yn olynol gan sefydliadau eithriedig
- carafannau a ddarperir ar gyfer gweithwyr amaethyddol a choedwigaeth
- carafannau a leolir ar safleoedd adeiladu a pheirianneg
- perfformwyr teithiol
- safleoedd ym meddiant awdurdod lleol; a
- safleoedd sipsiwn a ddarperir gan gynghorau sir neu gynghorau rhanbarthol
Mae Tîm Trwyddedu ac Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn cynnal Cofrestr Gyhoeddus o Safleoedd Carafannau Trwyddedig, ac mae’n ymddangos isod:
Cofrestr o Drwyddedau Meysydd Carafanau
Preswyl
Teithiol
Diwygiwyd Diwethaf: 20/04/2023
Nôl i’r Brig