Trwyddedau Tylino a Thriniaethau Arbennig

Yn wahanol i lawer o awdurdodau, nid yw Torfaen yn mynnu bod busnesau sy'n cynnig triniaethau tylino neu driniaethau therapiwtig tebyg yn cofrestru. Fodd bynnag, mae'n ofynnol bod rhai gweithgareddau uchel eu risg, fel tyllu'r clustiau, electrolysis, tatŵo ac aciwbigo yn cael eu cofrestru – ewch i'r ardal Tyllu'r croen (tatŵo, electrolysis, aciwbigo a thyllu'r clustiau) ar y wefan i gael mwy o fanylion am y trwyddedau hyn.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, sy'n gosod dyletswydd gyffredinol arnoch i sicrhau eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a'ch cleientiaid. Mae hyn yn ymwneud â'r amrywiaeth o risgiau cyffredinol a all fod yn bresennol ar eich safle, ynghyd ag unrhyw risgiau rhagweladwy a allai godi o'r triniaethau a gynhaliwch.

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith Etc

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith Etc 1974 yw'r ddeddf allweddol a fydd yn effeithio ar bob busnes masnachol, pa un a ydych yn hunangyflogedig neu'n cael eich cyflogi, ac yn gweithio'n symudol neu mewn Salon.

Mae nifer o Reoliadau wedi'u llunio o dan y Ddeddf hon, ac mae'r rhai mwyaf perthnasol yn cynnwys:

  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981;
  • Rheoliadau Trydan yn y Gweithle 1989;
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Gwybodaeth i Gyflogeion) 1989;
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Hyfforddiant ar gyfer Cyflogaeth) 1990;
  • Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992;
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cyfarpar Sgrin Arddangos) 1992
  • Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992;
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992;
  • Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995;
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Ymgynghori â Chyflogeion) 1996;
  • Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Pobl Ifanc) 1997;
  • Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith 1998;
  • Rheoliadau Amser Gweithio 1998;
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002.

Cael mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy'n effeithio ar eich busnes ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae arweiniad ar arfer gorau a gwybodaeth iechyd a diogelwch fwy penodol ynghylch amrywiaeth o driniaethau therapiwtig (gan gynnwys tylino) i'w cael yn y cyhoeddiad 'Body Art, Cosmetic Therapies and Other Special Treatments' (CIEH/Barbour Index). Mae hwn ar gael i'w brynu oddi wrth Chadwick House Publishing Group yn Chadwick House Publishing Group, Chadwick Court, 15 Hatfields, Llundain, SE1 8DJ. Ffôn: 0207 9286006, Gwefan: www.cieh.org

Beth i'w wneud os oes gennych gŵyn

Os ydych yn pryderu am fusnes neu safle arall rydych chi'n amau nad yw'n cyrraedd y safonau iechyd a diogelwch gofynnol, neu sy'n cynnig tyllu clustiau, tatŵo ac ati heb drwydded, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.

Os oes gennych gŵyn fel defnyddiwr ynghylch nwyddau neu wasanaethau a brynoch oddi wrth dylinwr neu ddarparwr triniaeth arbennig arall, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU. Sylwer nad oes modd delio â'r materion hyn fel rhan o'r drwydded fel arfer, ond mae'n bosibl y gallai ein swyddogion trwyddedu gynnig cymorth a chyngor.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig