Cronfa data Cyllid Allanol
Beth yw’r Databas Ariannu Allanol?
Mae’r Databas Ariannu Allanol yn ddull seiliedig ar TG o fapio a chydgysylltu prosiectau a ariennir yn allanol ledled y fwrdeistref.
O adfywio Blaenafon i barciau technoleg uwch Cwmbrân – mae fwy neu lai pob un o’r prosiectau mwyaf y mae’r Cyngor yn rhan ohonynt yn dibynnu ar gyllid allanol. O gronfeydd Ewropeaidd, grantiau Cynulliad Cymru a’r Loteri, rydym wedi denu miliynau o bunnau yn llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd.
Hyd nes cafodd y Databas Ariannu Allanol ei lansio, roedd cydgysylltu cyllid allanol yn anghyson ar draws y gyfundrefn, gyda gwasanaethau yn gweithio ar fidiau ar eu pennau eu hunain, hyd yn oed yn cystadlu â’i gilydd am yr un cronfeydd o arian allanol.
Gyda llywodraeth leol dan bwysau cynyddol i wneud i bob punt rydym yn ei denu a’i gwario fynd mor bell ag y bo modd, mae’r Databas Ariannu Allanol yn ein helpu i wneud y defnydd gorau posibl o’r arian sydd ar gael.
Mae’n rhoi i’r cyngor un ffynhonnell o wybodaeth ynglŷn â’n defnydd yn y gorffennol a’n cynlluniau i’r dyfodol ar gyfer pob punt o gyllid allanol ar lefel prosiect unigol. Mae hefyd yn sicrhau bod darpar fidiau yn cael eu safoni, gan wella eu cyfle o lwyddo a bod y bobl allweddol yn ymwybodol o brosiectau o’r cyfnod cynharaf, sy’n golygu bod bidiau wedi eu craffu cyn cyflwynir cais llawn.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Polisi UE ac Ariannu Allanol.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/01/2022
Nôl i’r Brig