Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Wrth i gronfeydd strwythurol yr UE ddirwyn i ben ar ôl 2022-23, mae Llywodraeth y DU wedi eu disodli â rhaglen ariannu ddomestig - gyda’r nod o fynd i’r afael â gwahaniaethau rhanbarthol, mae hyn yn cael ei alw yn “Agenda Codi’r Gwastad” yn y cyfryngau. Ar hyn o bryd mae gan y rhaglen hon dri llinyn sy'n berthnasol i Dorfaen

  • Cronfa Codi’r Gwastad: Cyllid cyfalaf wedi'i anelu at brosiectau seilwaith ffisegol.
  • Cronfa Adfywio Cymunedol y DU: Bydd y gronfa hon yn treialu prosiectau tymor byr i lywio’r nifer o brosiectau blynyddol y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y dyfodol - bydd y cronfeydd hyn hefyd yn helpu i godi’r gwastad a chreu cyfle ledled y DU yn y lleoedd mwyaf anghenus ac mae'n ategu at y Gronfa Codi’r Gwastad, ond mae'n canolbwyntio ar fuddsoddi refeniw ar sgiliau, menter a chyflogaeth.
  • Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: Mae Llywodraeth y DU yn darparu £150 miliwn dros 4 blynedd i gefnogi grwpiau Cymunedol yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, i gymryd perchnogaeth o asedau ac amwynderau sydd mewn perygl o ddiflannu. Bydd y gronfa'n rhedeg tan 2024/25 a bydd cyfanswm o, o leiaf wyth o gylchoedd ceisiadau.

Mae’r uchod i gyd yn rhannu’r un heriau a chyfleoedd cyffredin, y mae llywodraeth y DU yn benderfynol o fynd i’r afael â hwy mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/10/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol

Ffôn: 01495 742143 / 01495 742142

E-bost: europexternalfunding@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig