Beth mae Ewrop wedi ei wneud ar ein cyfer ni?

Rhwng 2007-2013 fe wnaeth Gymru elwa ar £1.8bn o gyllid UE i gefnogi twf a swyddi.

Mae cyfres o ffilmiau byr wedi'u lansio i dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae cyllid Ewropeaidd wedi'i gael ar gymunedau, trigolion a busnesau yn ne ddwyrain Cymru. Mae dwsinau o bobl wedi cael eu gwahodd i adrodd eu straeon a disgrifio'r effaith gadarnhaol y mae cyllid Ewropeaidd wedi'i gael ar eu bywydau a chymunedau a busnesau de-ddwyrain Cymru.

Mae’r canlyniadau’n ymddangos mewn wyth ffilm fer ar www.youtube.com/SEWalesSET