Cronfa Adfywio Cymunedol

Roedd Cronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU yn rhagflaenydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a fydd yn disodli cronfeydd yr UE.

Derbyniodd Cyngor Torfaen geisiadau gan saith prosiect, yn canolbwyntio ar gyflenwi cynlluniau peilot hyfforddiant a gwella sgiliau ledled Torfaen a’r rhanbarth erbyn Mehefin 2022.

Cyflwynwyd y rhain i Lywodraeth y DU ac roedd pob un o’r saith yn llwyddiannus, gan roddi dyraniad mwyaf y rhaglen yng Nghymru.

Disgwylir i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin lansio yn y gwanwyn 2022. Bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi gan Dîm Cyllid Allanol y Cyngor.

Cysylltu, Ymgysylltu, Gwrando a Thrawsnewid: £1,909,978

CELT

Nod prosiect ymchwil CELT yw treialu technegau ac ymyraethau newydd i gefnogi pobl ddi-waith hirdymor i gael gwaith mewn 10 awdurdod lleol yn Ne Cymru.

Mae’r prosiect wedi creu pod sgiliau a chyflogadwyedd newydd yn Llyfrgell Cwmbrân, sy’n cynnig gwasanaeth galw heibio i drigolion sydd angen cymorth i gael gwaith neu wella eu cymwysterau. Gall y cynghorwyr hefyd helpu pobl gyda materion ariannol a lles.

Mae fan sgiliau a chyflogadwyedd hefyd wedi ei chomisiynu i fynd â chynghorwyr i gymunedau yn Nhorfaen a Sir Fynwy, i gyrraedd y sawl sydd mewn mwyaf o angen.

Food 4 Growth: £609,084

Mae Food4Growth yn brosiect cydweithredol rhwng cynghorau Torfaen, Caerffili a Sir Fynwy a’r nod yw helpu i ddatblygu cadwyni cyflenwi bwyd a chreu dull system gyfan.

Nod Cynllun Busnes Gwledig y prosiect yw cefnogi 12 o fusnesau gwledig i ychwanegu gwerth i’w cynnyrch, megis arallgyfeirio neu ystyried prosesau newydd fel tyfu fertigol a chynlluniau pigo eich bwyd eich hun.

Nod y Cynllun Bwyd Cymunedol yw trechu tlodi bwyd. Mae wedi rhoi grantiau i naw sefydliad trydydd sector, grwpiau cymunedol neu wasanaethau sector cyhoeddus i helpu i greu atebion cynaliadwy. Mae prosiectau wedi cynnwys tyfu cymunedol, coginio ar gyllideb a datblygu cymorth cwnsela un i un i annog cysylltiadau gyda’r gwasanaethau llesiant presennol.

Un enghraifft yw cynllun rhannu bwyd lleol Tasty Not Wasty, yng Nghwmbrân, a dderbyniodd arian i ddatblygu caffi cymunedol. Mae’r caffi yn gweini prydau bwyd poeth o fwyd dros ben, gan gynnig opsiynau bwyta iach ar sail talu-fel-y-mynnwch. Mae gwirfoddolwyr yn cael hyfforddiant ar baratoi bwyd, ac mae’r caffi yn cynnig y manteision ychwanegol o leihau stigma tlodi bwyd ac unigedd cymdeithasol, a gwella lles.

Pecyn Digidol Cyflawn ar gyfer Busnesau Torfaen: £378,000

Uddr

Derbyniodd Uddr gyllid Cronfa Adfywio Cymunedol y DU i helpu 200 o fusnesau Torfaen i feithrin eu hôl troed digidol.

Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i gwmnïau elwa ar wefan wedi ei hariannu’n llawn am 12 mis a thanysgrifiad blwyddyn i’r ap Uddr, sy’n hyrwyddo busnesau, masnachwyr a gwasanaethau lleol.

Gwelodd JEMS Window Cleaning, ym Mhont-y-pŵl, gynnydd o £1,500 mewn refeniw yn y ddau fis ar ôl i’w wefan gael ei chreu ddiwedd mis Ionawr. Mae’r cwmni wedi gweld cynnydd o 500% mewn traffig ar y wefan a chynnydd yn ei gyrhaeddiad a’i ymgysylltiad ar y cyfryngau cymdeithasol.

Meddai’r perchennog Jacob Soper: “Mae ein busnes wedi ei drawsnewid gan yr arian yma. Rydym nawr yn gallu cyrraedd cynulleidfa lawer ehangach a hyrwyddo ein busnes mewn dull mwy proffesiynol drwy’r wefan y mae Uddr wedi ei chreu i ni. Roedd y broses yn syml o’r dechrau i’r diwedd ac o ganlyniad, rhagwelir y bydd ein busnes yn perfformio’n well na’r disgwyl yn y flwyddyn ariannol nesaf.”

Cerrig Camu: £331,410

Stepping Stones

Mae’r prosiect hwn wedi ei anelu at bobl dros 50 oed sydd eisiau dysgu sgiliau newydd neu ddatblygu diddordeb newydd.

Mae’n cynnwys 12 gweithdy mewn meysydd fel tyfu eich cynnyrch eich hun ar randir, gwneud gemwaith, cerameg, addurno cacennau a’r siop drwsio, sy’n dysgu uwchgylchu a gwasanaethau DIY.

Bydd 16 o bobl wedyn yn cael y cyfle i droi eu diddordeb yn fusnes gyda chymorth grant busnes.

Meddai Lisa Floyd, ymgynghorydd gweithdy: “Dim ond ychydig o wythnosau i mewn i’r sesiynau, ac mae hyder pawb wedi cynyddu ac ar ôl dysgu’r hanfodion, mae dyluniadau unigol wedi dod i’r golwg ac maent yn parhau i ddatblygu. Mae un dysgwr hyd yn oed wedi rhoi eu sgiliau presennol ar waith, gan greu eu celfi gwaith gwifrau eu hunain.”

Menter Ieuenctid Torfaen: £228,126

Young Enterprise Torfaen

Mae menter Focus Futures Business in Focus yn anelu at gefnogi pobl ifanc, rhwng 16 a 24 oed, i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth a meithrin yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial.

Bydd yn rhoi cyfarwyddyd i bobl sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain, eu helpu i gael cymorth ariannol a darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd 1-i-1.

Bydd y peilot hefyd yn cefnogi busnesau annibynnol sydd wedi wynebu heriau yn ystod y pandemig COVID-19 a busnesau newydd.

Mae’r prosiect hefyd yn cynnig gwobrau gwerth £20,000 drwy’r Wobr Amcan Gwyrdd. Gwahoddir ceisiadau gan fusnesau ac unigolion sydd eisiau cychwyn eu busnes neu wella eu hadeilad busnes drwy gyfrwng camau gwyrdd. Gall y buddugol ennill hyd at £5,000 mewn cymorth ariannol.

Y Bywyd Rydych Chi Ei Eisiau: £200,294

Mae’r elusen Threshold DAS yn rhoi cyfle i unrhyw un dros 16 oed i astudio ar gyfer amrediad o gymwysterau cysylltiedig â’r gwaith a chymwysterau personol a chymdeithasol.

Bydd yr arian o’r Gronfa Adfywio Cymunedol yn talu cost 150 o gymwysterau, ynghyd â 30 lle ar gyfer pobl ifanc rhwng 16-25 oed i ddysgu sgiliau bywyd.

Mae mwy na 25 o gyrsiau lefel Un ar gael, gan gynnwys gweinyddiaeth, marchnata a TG, ymwybyddiaeth ofalgar, byw yn iach a rheoli arian personol.

Gall dysgwyr gwblhau’r cyrsiau arlein, drwy sesiynau rhithwir, neu wyneb yn wyneb yn y dosbarth.

Er bod yr elusen yn gweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig, gall unrhyw un gymryd rhan.

Dywedodd Tania Perkins, pennaeth prosiect Y Bywyd Rydych Chi Ei Eisiau: “Rydym yn cynnig llwybr i hyfforddiant sy’n dod â phobl o bobl cefndir, ac o bob oed, gyda’i gilydd yn eu hardal leol. Mae dysgu cymunedol yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi mentrau ehangach sy’n rhoi llawer mwy o gyfleoedd i bobl.”

Prosiect Cymorth Busnesau Bach Pont-y-pŵl a Blaenafon: £151,465

James Austin outside Austin & Co barbersBydd hyrwyddo busnesau newydd a phryniannau busnes-i-fusnes ym Mhont-y-pŵl a Blaenafon yn un o ganolbwyntiau’r prosiect hwn.

Bydd hefyd yn datblygu llwyfan ffeirio sgiliau i gynorthwyo busnesau newydd, cyfleoedd prawf ar gyfer eiddo byrdymor a gwaith gyda landlordiaid i ail-ddefnyddio adeiladau gwag.

Un o’r rhai a gafodd help gan y prosiect yw James Austin, o’r Dafarn Newydd, sydd wedi sefydlu siop barbwr yng nghanol tref Pont-y-pŵl.

Mae wedi cael cymorth ariannol tuag at gost rhent a chyfleustodau am y chwe mis cyntaf.

Agorodd ddrws Austin & Co ar ei ben-blwydd yn 25 ym mis Mawrth ac mae’n awyddus i gefnogi darpar fusnesau eraill.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/04/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol

Ffôn: 01495 742143 / 01495 742142

Ebost: europexternalfunding@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig