Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Adeiladu dyfodol cynaliadwy i Dorfaen
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn dweud bod rhaid i gyrff cyhoeddus fel y cyngor ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy – y broses o wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru.
Mae'n ofynnol i'r Cyngor gyhoeddi ei amcanion llesiant mewn datganiad sy'n dangos sut mae'n defnyddio datblygu cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau trwy:
- Edrych yn hirdymor, fel nad yw'n peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol rhag diwallu'u hanghenion;
- Cymryd ymagwedd integredig, er mwyn edrych ar yr holl nodau lles wrth benderfynu ar ein hamcanion lles;
- Cynnwys amrywiaeth o'r boblogaeth yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt;
- Gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol i ddod o hyd i atebion cynaliadwy a rennir; a
- Deall achosion sylfaenol y problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd.
Trwy gyhoeddi datganiad llesiant, rhaid i’r cyngor osod ac egluro ei amcanion lles. Rhaid cynllunio’r amcanion lles i wneud y mwyaf o gyfraniad y cyngor yn nhermau cyflawni pob un o saith o nodau lles Cymru.
- Cymru Lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel byd-eang
Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn canolbwyntio ar wella'r meysydd sydd o'r pwys mwyaf i ddinasyddion Torfaen, mae ei amcanion llesiant yn gysylltiedig â'r tair blaenoriaeth yn ei gynllun adfer corfforaethol.
Mae’r dogfennau a ganlyn ar gael i’w lawr lwytho:
Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2022
Nôl i’r Brig