Dweud Eich Dweud Torfaen

Dweud Eich Dweud Torfaen yw ein hwb ymgysylltu cymunedol sy'n caniatáu i drigolion ddarganfod pa benderfyniadau sydd ar y gweill, a dweud eu dweud mewn penderfyniadau am wasanaethau lleol.

Rydym wedi ymrwymo i gynnwys y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ac rydym yn addo gwrando ar bryderon a chydnabod pryderon a dyheadau a rhoi adborth ar sut y dylanwadodd mewnbwn cyhoeddus ar y penderfyniad.

Gallwch gofrestru fel cyfranogwr neu gyfrannu'n ddienw.

Gallwch hefyd gael gwybod am ein hymgynghoriadau diweddaraf trwy ddilyn @cyngortorfaen ar Facebook, Instagram a Twitter.

Mae manylion yr holl ymgynghoriadau sydd ar y gorwel, y rheini sy'n agored ac wedi cau, ar gael ar system Dweud Eich Dweud Torfaen. 

Chwilio yr ymgynghoriadau

Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd

Rydym yn gwerthfawrogi barn pobl sy'n byw ac yn gweithio yn Nhorfaen. Mae ein meysydd gwasanaeth yn annog aelodau'r gymuned i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, a defnyddio eu barn a'u profiadau i lywio cynlluniau, polisïau a chamau gweithredu. Darganfyddwch mwy yn ein Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Strategic Services Unit

Ffôn: 01495 766475

Ebost: getinvolved@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig