Cynllun Bathodynnau Glas

Beth yw'r Cynllun Bathodyn Glas?

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas yn drefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio i bobl ag anawsterau cerdded difrifol sy'n teithio naill ai fel gyrwyr neu fel teithwyr. Mae'r cynllun yn berthnasol hefyd i bobl wedi'u cofrestru'n ddall a phobl ag anableddau difrifol iawn ar aelodau uchaf eu cyrff.

Mae'r cynllun yn caniatáu i ddeiliaid bathodynnau barcio'n agos i'w pen taith. Mae consesiynau'n berthnasol i barcio ar y stryd ac maent yn cynnwys defnyddio mesuryddion parcio a mannau parcio talu ac arddangos yn rhad ac am ddim. Mae'n bosibl y bydd deiliaid bathodynnau yn cael eu heithrio rhag y terfynau amser sy'n cael eu gorfodi ar ddefnyddwyr eraill a gallant barcio ar linellau sengl neu ddwbl fel arfer, am gyfnodau cyfyng. 

Nid yw'r cynllun yn berthnasol i ffyrdd preifat na meysydd parcio oddi ar y stryd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd rhai'n darparu mannau parcio i bobl anabl. Dylech ddarllen yr arwyddion bob amser i weld pa gonsesiynau sydd ar gael a ph'un a oes rhaid i ddeiliaid bathodynnau glas dalu ai peidio. Bydd rhaid arddangos y bathodyn glas bob amser pan fyddwch yn defnyddio un o'r mannau parcio hyn. 

Pwy all gael bathodyn glas?

Os ydych yn bodloni un o'r meini prawf canlynol (ar gyfer ymgeiswyr 4 oed a hŷn), byddwch yn gymwys FEL MATER O DREFN:

  • Rydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Rydych yn cael Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl (nid Lwfans Gweini nac Elfen Ofal Lwfans Byw i'r Anabl)
  • Rydych wedi cael budd cyfandaliad ar dariffau 1-8 o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ac ardystiwyd bod gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n achosi anallu i gerdded, neu anhawster sylweddol iawn wrth gerdded
  • Rydych wedi'ch cofrestru'n ddall
  • Rydych yn defnyddio cerbyd sy'n cael ei gyflenwi i bobl anabl gan gynllun Motability

Os nad ydych yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf uchod, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys ar sail y meini prawf DEWISOL canlynol, os gallwch ddarparu tystiolaeth ategol:

  • Mae gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich ac rydych yn gyrru cerbyd modur yn rheolaidd, ond ni allwch droi olwyn llywio cerbyd modur â'ch llaw, hyd yn oed os oes ganddo fwlyn troi
  • Mae gennych anabledd parhaol a sylweddol sy'n golygu na allwch gerdded neu rydych yn cael anhawster sylweddol wrth gerdded

Plant o dan 3 oed

Gall rhiant neu warcheidwad ymgeisio ar ran plentyn o dan 3 oed, y mae'n rhaid iddo deithio gydag offer meddygol mawr neu y mae'n rhaid iddo fod yn agos at gerbyd er mwyn cael triniaeth frys, o ganlyniad i gyflwr meddygol penodol. 

Bathodynnau Sefydliadol

Mae bathodynnau sefydliadol ar gael hefyd pan fydd dau neu fwy o ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cludo gan staff. 

Sylwch: mae'r cais yn amodol arnoch yn cyflwyno'r dystiolaeth ategol berthnasol.

Pa wybodaeth fydd rhaid i mi ei darparu?

Os ydych yn gymwys o dan y meini prawf FEL MATER O DREFN, rhaid i chi:

  • Ddarparu prawf o bwy ydych (a allai gynnwys un o'r canlynol)
    • Pasbort
    • Tystysgrif priodas/ysgariad
    • Trwydded yrru ddilys
    • Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymu partneriaeth sifil
    • Tystysgrif geni/mabwysiadu
    • (Mae'n well gennym ddogfennau adnabod sy'n cynnwys llun ohonoch)
  • Darparu prawf o'ch cyfeiriad, wedi'i ddyddio yn y 12 mis diwethaf
    • Bil gwasanaeth
    • Trwydded deledu
    • Llythyr budd-dal
    • Llythyr y dreth gyngor
  • Darparu eich Rhif Yswiriant Gwladol
  • Darparu'r dystiolaeth ategol berthnasol h.y. copi diweddaraf o'ch llythyr hawliad am Lwfans Byw i'r Anabl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Darparu 1 llun maint pasbort - gyda'ch enw wedi'i brintio ar y cefn

Os nad ydych yn gymwys o dan y meini prawf fel mater o drefn, gallwch gael eich ystyried o dan y meini prawf DEWISOL a bydd rhaid i chi:

  • Ddarparu prawf o bwy ydych (a allai gynnwys un o'r canlynol)
    • Pasbort
    • Tystysgrif priodas/ysgariad
    • Trwydded yrru ddilys
    • Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymu partneriaeth sifil
    • Tystysgrif geni/mabwysiadu
    • (Mae'n well gennym ddogfennau adnabod sy'n cynnwys llun ohonoch)
  • Darparu prawf o'ch cyfeiriad, wedi'i ddyddio yn y 12 mis diwethaf
    • Bil gwasanaeth
    • Trwydded deledu
    • Llythyr budd-dal
    • Llythyr y dreth gyngor
  • Darparu prawf o natur eich anabledd/cyflwr meddygol parhaol a sylweddol a thystiolaeth o sut mae hyn yn effeithio ar eich symudedd 
  • Darparu 1 llun maint pasbort - gyda'ch enw wedi'i brintio ar y cefn

Sylwch: Mae copïau o dystiolaeth ddogfennol yn dderbyniol. Ni fyddem yn argymell anfon rhai gwreiddiol yn y post gan na allwn fod yn gyfrifol am ddogfennau a anfonir fel hyn. Gellir tynnu lluniau dogfennau a'u he-bostio i socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk neu eu llwytho ar ap symudol Torfaen.

Sut gallaf ymgeisio am fathodyn?

Gallwch Gwneud cais am Fathodyn Glas yma neu gallwch ffonio ni ar 01495 762200 neu ddod i'n gweld yn un o'n Canolfannau Gofal Cwsmeriaid .

Adnewyddu eich Bathodyn Glas

Mae bathodynnau yn ddilys am 3 blynedd. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd rhaid i chi ailymgeisio trwy ddefnyddio'r ffurflen Gwneud cais am Fathodyn Glas. Mae'r dyddiad y daw'r bathodyn i ben wedi'i argraffu ar flaen y cerdyn.

Sylwch: Ni ddylech gyflwyno ceisiadau adnewyddu heb fod yn gynharach na 4 wythnos cyn y daw'r bathodyn i ben.

Bathodynnau Coll/Wedi'u Dwyn

Os ydych wedi colli eich bathodyn neu os oes rhywun wedi'i ddwyn, bydd rhaid i chi gysylltu â ni i drefnu bathodyn newydd. Llenwch y Ffurflen Bathodyn Glas wedi'i Ddwyn, ei Golli neu ei Ddifrodi .

Nid oes rhaid i chi dalu os yw rhywun wedi dwyn eich bathodyn, a'ch bod yn darparu rhif trosedd sy'n cael ei gyflenwi gan yr Heddlu. Sylwch y byddwn yn codi tâl gweinyddu o £10.00 ar gyfer bathodyn coll. Byddwch yn talu hwn pan fyddwch yn cael eich bathodyn newydd. Ni allwn ad-dalu'r ffi hon. 

Yn y ddau achos, bydd gofyn i chi ddarparu llun pasbort ychwanegol wedi'i lofnodi.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/08/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig