Gorsaf Profion MOT

Mae Cyngor Torfaen yn agor eu drysau i ganolfan brofi MOT newydd sbon ac yn cynnig gwasanaeth annibynnol wedi ei ymeradwyo i fodurwyr yn eu depo yn Nhy Blaen, Y Dafarn Newydd.

Mae staff y cyngor yn brofiadol gyda cefndir mewn cynnal a chadw cerbydau. Maent yn gwasanaethu a chynnal 450 o gerbydauar hyn o bryd, gan gynnwys 190 o gerbydau ar gyfer partneriaid.

Pryd i drefnu MOT

Rhaid i bob cerbyd sy'n gyrru ar y ffordd gael ei gadw mewn cyflwr ffordd teilwng. Mae'n rhaid i chi gael prawf MOT bob blwyddyn unwaith bydd eich cerbyd yn dair blwydd oed er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd a safonau diogelwch y ffyrdd a'r amgylchedd.

Ni allwch yrru eich cerbyd ar y ffordd os yw eich tystysgrif MOT wedi dod i ben. Yr unig eithriad i hyn yw, os oes prawf MOT wedi'i archebu ac yr ydych yn gyrru eich cerbyd i'r prawf.

Gallwch adnewyddu eich prawf MOT hyd at un mis cyn iddo ddod i ben. Mae'r dyddiad cynharaf y gallwch adnewyddu eich prawf fwedi ei nodi ar eich tystysgrif MOT.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk/getting-an-mot

I drefnu apwyntiad

Nodwch fod profion MOT drwy apwyntiad yn unig, a dim ond taliadau gyda cerdyn a dderbynir.  Bwcio Prawf MOT. Sylwer, os bydd rhaid i ni ganslo eich apwyntiad ar fyr rybydd, byddwch yn cael y dewis i gael ad-daliad neu cyfle i ail-drefnu apwyntiad arall

Cyrraedd ar gyfer eich MOT

Mae Canolfan Profi MOT wedi'i leoli yn Nhy Blaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pwl, Torfaen, NP4 0TL.

Wedi i chi gyrraedd y fynedfa ffordd newydd i Ty· Blaen, parciwch yn y mannau parcio dynodedig a gwneud eich ffordd i'r dderbynfa MOT. Mae croeso i chi aros yn y dderbynfa lle gallwch weld y prawf yn digwydd, neu dychwelyd unwaith y bydd eich MOT wedi cael ei gwblhau. Gofynnir i gwsmeriaid gyrraedd o leiaf 10 munud cyn amser eu apwyntiad.

Nodwch fod Ty Blaen yn ddepo cerbydau prysur a dylai gwsmeriaid gadw i'r llwybrau cerdded dynodedig ar bob amser. Unwaith bydd y prawf yn cael ei gwblhau, byddwch yn cael eich hebrwng o'r safle gan eich profwr MOT i sicrhau diogelwch. 

Oriau Agor

Gall cerbydau gael eu gadael a chasglurhwng yr amseroedd canlynol :

  • 7:30am i 3:30pm dydd Llunt i ddydd Iau
  • 7:30am i 3:00pm dydd Gwener
Diwygiwyd Diwethaf: 08/06/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Derbynfa Gorsaf MOT

Ffôn: 01495 766795
Ebost: motenquiries@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig