Strwythurau Peryglus a Diogelwch y Cyhoedd

Mae swyddogaethau Rheoli Adeiladu awdurdodau lleol hefyd yn delio â Strwythurau Peryglus. Mae Deddfwriaeth yn Neddf Adeiladu 1984 yn rhoi pwerau i'r Awdurdod Lleol ddileu unrhyw berygl a achosir gan strwythurau.

Gall strwythurau peryglus posibl gynnwys adeiladau adfeiliedig, waliau cynnal, waliau terfyn neu balis a theils to rhydd.

Fel rhan o weithredu'r pwerau hyn, rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau angenrheidiol i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd.

I roi gwybod am strwythur peryglus yn y fwrdeistref ffoniwch:

  • 01633 647300 (09:00 - 17:00)
  • 01495 762200 (y tu allan i oriau swyddfa)
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

E-bost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig