Enwi Strydoedd a Gosod Rhifau

Mae cyfeiriad eiddo yn dyfod yn fater sy'n bwysig iawn. Mae mudiadau, gwasanaethau brys a gwasanaethau post a'r cyhoedd yn gyffredinol, angen ffyrdd mwy effeithiol o leoli a chyfeirnodi eiddo.

Ni yw'r Awdurdod sy'n Enwi Strydoedd a Sefydlu Rhifau ar gyfer y Fwrdeistref ac rydym yn cyflawni'r swyddogaethau hyn dan ddarpariaethau adrannau 17 - 19 Deddf Iechyd y Cyhoedd 1925.

A fedraf enwi fy nhŷ heb gysylltu â'r Cyngor?

Os oes gan eiddo rhif yn barod, gall perchennog enwi ei eiddo heb gysylltu â'r Cyngor ar yr amod nad yw'n gwrthdaro ag enw eiddo sy'n bodoli eisoes yn yr ardal honno.

Yn yr achos hyn ni fydd enw'r eiddo yn ffurfio rhan o gyfeiriad yr eiddo yn swyddogol, a rhaid dangos rhif yr eiddo a chyfeirio ato mewn unrhyw ohebiaeth; er enghraifft:

'Ty Ni' (heb fod yn rhan o'r cyfeiriad swyddogol)
1 Fy Heol(cyfeiriad swyddogol)
Tref
Sir
Cod post

Nid oes angen i chi geisio caniatâd gan y Cyngor heblaw nad oes rhif wedi ei glustnodi yn y cyfeiriad swyddogol (hy os clustnodwyd enw yn rhan o'r cyfeiriad swyddogol). 

Sut ydw i'n enwi fy nhŷ?

Yn achos cyfeiriadau, pan nad oes rhif wedi ei glustnodi, mae'r enw a glustnodir yn ffurfio rhan o'r cyfeiriad swyddogol. Yn yr achos hwn, bydd angen i'r perchnogion sydd am newid enw'r eiddo, rhoi eu cais ar bapur, gan nodi eu henw, cyfeiriad presennol yr eiddo yn llawn a nodi yn glir yr enw newydd o'u dewis. Mae ffurflenni cais ar gael gan y Tîm Rheoli Adeiladu.

Byddwn yn cysylltu â'r Post Brenhinol i weld a ydynt yn gwybod a oes eiddo ag enw tebyg yn yr ardal. Rydym yn gwirio systemau gwybodaeth ac os yw'r enw yn foddhaol, bydd y cyfeiriad newydd yn cael ei gofrestru a chewch eich hysbysu yn unol â hynny. Os oes problem gyda'r enw o'ch dewis byddwn yn gofyn am ddewisiadau eraill.

Bydd gwybodaeth am yr enw sydd wedi newid yn cael ei hanfon at y Post Brenhinol, y Gwasanaethau Brys a'r Gwasanaethau Hanfodol yn ogystal â Gwasanaethau perthnasol y cyngor. Cyfrifoldeb perchnogion yr eiddo yw dweud wrth eu cysylltiadau personol ac ati.

Datblygu eiddo sengl/datblygiad bach - Sut ydw i'n rhoi rhifau i eiddo?

Os ydych yn datblygu eiddo newydd (sengl neu ddatblygiad bach), dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gweithio ar y safle. Bydd datblygiad sengl neu ddatblygiad bach fel arfer yn cael ei enwi neu'n derbyn rhif o fewn y stryd bresennol. Os yw'r eiddo ar heol sydd yn cynnwys rhifau, yn aml defnyddir ABC ynghyd â'r rhif cyfagos (er enghraifft 12A, 12B, 12C).

Os yw'r stryd yn cynnwys eiddo sydd ag enwau, defnyddir rhifau lleiniau'r datblygiad i gofrestru'r eiddo ac wedi hynny, pan fydd y perchennog newydd yn dewis enw, byddwn yn dilyn ein proses sylfaenol i Newid Enw Eiddo.

Bydd y wybodaeth yn cael ei hanfon i'r cwmnïau cyfleustodau, y gwasanaethau brys, y Gofrestrfa Tir, Arolwg Ordnans a'r gwasanaethau perthnasol yn y Cyngor. Byddwch hefyd yn derbyn copi o'r rhestr enwau a rhifau a byddwn yn gofyn i chi hysbysu'ch darpar brynwyr ynghylch cyfeiriad newydd eu heiddo.

Lawr lwythwch gopi o Ffurflen Gais Enwau Strydoedd a Rhifau Eiddo (Datblygwyr).

Datblygu ystâd fawr - Sut ydw i'n enwi strydoedd newydd a rhoi rhifau i eiddo?

Os ydych yn datblygu ystâd fawr, dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y byddwch yn dechrau gwaith ar y safle er mwyn i ni fedru prosesu enwau strydoedd a rhoi rhifau i'ch eiddo newydd heb unrhyw oedi.

Bydd angen i chi ddewis enwau ar gyfer eich strydoedd, yna byddwn yn gwirio enwau'r strydoedd yr ydych wedi eu hawgrymu rhag ofn bod yna ddyblygu yn yr ardal leol, cyn mynd ati i ymgynghori gyda'r Post Brenhinol.

Pan fyddwn wedi cytuno ar enw, byddwn yn cofrestru enwau'r strydoedd a pharatoi rhestr o rifau. Bydd y wybodaeth yn cael ei hanfon i'r cwmnïau cyfleustodau, y gwasanaethau brys, y Gofrestrfa Tir, Arolwg Ordnans a'r gwasanaethau perthnasol yn y Cyngor.

Byddwch hefyd yn derbyn copi o'r rhestr enwau a rhifau a byddwn yn gofyn i chi hysbysu'ch darpar brynwyr ynghylch cyfeiriad newydd eu heiddo. Lle'n briodol, gofynnir i chi ddarparu arwyddion stryd newydd i'r safon yr ydym yn eu darparu.

Lawr lwythwch gopi o Ffurflen Gais Enwau Strydoedd a Rhifau Eiddo (Datblygwyr).

Beth sy'n digwydd os oes angen ailenwi stryd / rhoi rhifau newydd iddi?

Ar adegau prin iawn mae angen ailenwi stryd neu roi rhifau newydd iddi. Dyma fel arfer yw'r dewis olaf pan fydd:

  • Enw a/neu'r rhifau yn y stryd yn achosi dryswch
  • Grŵp o drigolion yn anhapus ag enw eu stryd
  • Eiddo newydd yn cael eu hadeiladu mewn stryd a bod angen newid rhifau eiddo eraill er mwyn cynnwys yr eiddo newydd
  • Rhifau'r eiddo sydd ag enw yn unig mewn stryd, yn achosi dryswch i ymwelwyr, y sawl sy'n cludo nwyddau neu'r gwasanaethau brys

Cysylltir â thrigolion sy'n byw yno eisoes a rhoddir ystyriaeth i'w barn a'u sylwadau. Yna byddwn yn cysylltu â'r Post Brenhinol er mwyn cael wybod eu barn am y sefyllfa. I newid enw stryd byddwn yn cynnal pleidlais i ganfod barn y trigolion am y mater.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/11/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

E-bost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig