Sut ydw i'n gwneud cais am reoliadau adeiladu?

Mae yna sawl ffordd i wneud Cais Rheoliadau Adeiladu:

  • Planning Portal Logo   
    Ar-lein - Gallwch gyflwyno cais rheoliadau adeiladu ar y Porth Cynllunio
  • E-bost - Bydd angen i chi lawr lwytho’r ffurflenni priodol a darparu un copi o’r cais a’r holl ddogfennau ategol. Ar ôl eu cwblhau gallwch e-bostio’r ceisiadau i buildingcontrol@torfaen.gov.uk
  • Post - Bydd angen i chi lawr lwytho'r ffurflenni priodol a darparu un copi o'r cais a'r holl ddogfennau ategol. Gellir anfon y ceisiadau wedi'u cwblhau i: Rheoli Adeiladu, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0LS.
  • Ffôn - A fyddech cystal â ffonio 01633 647300 a gallwn gwblhau eich cais ar eich rhan. Mae’n bosib y bydd dal angen i chi e-bostio, postio neu alw heibio â’r holl ddogfennau ategol drwy ddefnyddio’r manylion uchod.

Gallwch ddefnyddio’n gorsaf weithio bwrpasol yn ein swyddfeydd yn Nhŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, Pont-y-pŵl, NP4 0LS rhwng 8:30-17:00 dydd Llun i ddydd Iau a 8:30-16:30 ar ddydd Gwener.

Nodyn Pwysig: Bydd ceisiadau drwy’r post neu e-bost yn cymryd mwy o amser na’r rhai ar-lein.

Os oes gennych unrhyw broblemau a fyddech cystal â ffonio eich tîm lleol ar 01633 647300 a byddant yn hapus i’w tywys drwy’r broses.

Eich Tîm Rheoli Adeiladu

Lee Redman - Arweinydd Tîm
Ffôn: 01633 647297 neu 07980 682320
E-bost: lee.redman@torfaen.gov.uk

Richard Duggan - Uwch Syrfëwr Rheoli Adeiladu (De)
Ffôn: 01633 648116 neu 07980 682321
E-bost: richard.duggan@torfaen.gov.uk

Gareth Morgan - Syrfëwr Rheoli Adeiladu (Gogledd)
Ffôn: 01633 647298 or 07980 682323
E-bost: gareth.morgan3@torfaen.gov.uk

Leanne Walters - Syrfëwr Rheoli Adeiladu Cynorthwyol
Ffôn: 01633 647300 
E-bost: leanne.walters@torfaen.gov.uk Diwygiwyd Diwethaf: 08/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

Ebost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig