Pa fath o gais sydd angen arnaf i?

Ar gyfer gwaith domestig mae yna ddewis o ffyrdd o wneud cais, Cynlluniau Llawn, Hysbysiad Adeiladu a Chais Chywiro ar gyfer gwaith adolygol.

Gwyliwch ein fideo ar sut mae’r broses rheolaeth adeiladu’n gweithio

Cynlluniau Llawn

Os hoffech gael eich cynlluniau wedi eu gwirio a’u cymeradwyo cyn i’r gwaith ddechrau, er mwyn osgoi camgymeriadau costus a gwaith cywirol oherwydd nad yw eich gwybodaeth am y rheoliadau yn gwbl gyfredol, rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen Cynlluniau Llawn.

Mae angen i gais o dan y broses hon gynnwys cynlluniau a gwybodaeth arall yn dangos manylion adeiladu, ymhell cyn y mae disgwyl i waith ar y safle ddechrau os yn bosibl.

Bydd eich awdurdod lleol yn gwirio’ch cynlluniau ac yn ymgynghori â’r awdurdodau priodol.

Os yw eich cynlluniau’n cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu byddwch yn derbyn hysbysiad yn datgan eu bod wedi eu cymeradwyo. Os nad yw eich awdurdod lleol yn fodlon efallai bydd gofyn i chi wneud gwelliannau neu ddarparu mwy o fanylion. Fel arall, efallai rhoddir cymeradwyaeth amodol. Bydd hon naill ai’n amlinellu newidiadau mae’n rhaid eu gwneud i’r cynlluniau; neu bydd yn nodi pa gynlluniau pellach mae’n rhaid eu rhoi i’r awdurdod.

Os bydd eich cynlluniau’n cael eu gwrthod caiff y rhesymau eu nodi yn yr hysbysiad. Mae hysbysiad cymeradwyo cynlluniau llawn yn ddilys am dair blynedd o ddyddiad adneuo’r cynlluniau

Hysbysiadau Adeiladu

Os nad yw’r gwaith yn gymhleth ac rydych yn fodlon bod gennych chi neu’ch adeiladwr ddealltwriaeth gweddol o’r rheoliadau, yna gallwch ddefnyddio ffurflen Hysbysiad Adeiladu. Mantais y broses hysbysiad adeiladu yw nad oes angen ffurfiol am ddyluniadau ffurfiol, er efallai bydd angen amcangyfrifon strwythurol. Gallwch ddechrau gwaith 48 awr ar ôl i’ch hysbysiad gael ei dderbyn gan yr awdurdod lleol.

Nid oes angen cynlluniau gyda’r broses yma felly mae’n gyflymach ac yn llai manwl na’r cais cynlluniau llawn. Y bwriad yw galluogi rhai mathau o waith adeiladu i ddechrau’n syth; er efallai ei bod yn fwyaf addas i waith bach neu sylfaenol.

Mae yna eithriadau penodol yn y rheoliadau yn delio â’r adegau pan na ellir defnyddio hysbysiadau adeiladu mewn perthynas â gwaith domestig; ni ellir defnyddio Hysbysiad Adeiladu:

  • Ar gyfer gwaith adeiladu yn agos at neu dros ffosydd dŵr storom a charthffosydd a ddangosir ar y ‘map carthffosydd’
  • Ble bydd adeilad newydd yn ymylu ar stryd breifat
  • Ble mae adeilad arfaethedig yn un o ddefnydd dynodedig o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoliadol (Diogelwch Tân)

Mae ‘hysbysiad adeiladu’ yn ddilys am dair blynedd ar ôl dyddiad cyflwyno’r hysbysiad i’r awdurdod lleol, a bydd yn mynd yn ddi-rym os nad yw’r gwaith wedi dechrau.

Ceisiadau Cywiro Adolygol

Os yw’r gwaith eisoes wedi dechrau neu o bosibl wedi ei gwblhau heb ganiatâd cywir, yna gellir gwneud cais adolygol gan ddefnyddio ffurflen Gywiro. Gallwch ddefnyddio hon hyd yn oed os cafodd y gwaith ei wneud gan gyn-berchennog. Mae’n bosibl y gellir cywiro unrhyw waith cyhyd ag y bod y gwaith wedi ei wneud ar ôl 11 Tachwedd 1985

Amcan y broses yw rheoleiddio’r gwaith heb awdurdod a chael tystysgrif cywiro. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai bydd angen agor allan, tynnu i ffwrdd a/neu gywiro gwaith er mwyn sicrhau cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.

Y peth gorau yw cysylltu â Gwasanaeth Rheoli Adeiladu i drafod eich amgylchiadau unigol cyn cyflwyno cais cywiro.

Gwyliwch ein fideo ynglŷn â beth i’w wneud os na chawsoch ganiatâd ar gyfer eich gwaith adeiladu

Pa bynnag math o gais y byddwch yn gwneud byddwn yn dod i arolygu’r gwaith wrth i’r gwaith gyrraedd camau amrywiol gan roi cyngor a chanllaw i’ch adeiladwr a thawelwch meddwl i chi. Bydd y camau yr ydym angen eu gweld fel arfer yn cael eu cytuno o flaen llaw.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

Ebost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig