Pryd mae angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu arnaf i?

Mae angen ceisiadau Rheoliadau Adeiladu ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu:

Adeiladau Newydd

  • Pob adeilad newydd ac eithrio adeiladau amaethyddol
  • Garejis nad ydynt yn gwbl ar wahân ac sy’n llai na 30 metr sgwâr

Estyniadau

  • Pob estyniad waeth pa mor fach
  • Rhai ystafelloedd gwydr a chynteddau - mae llawer wedi eu heithrio ond rhaid eu bod wedi eu gwahanu o’r tŷ gan ddrysau a heb wres)
  • Estyniadau i’r to, balconïau a therasau ar y to
  • Seleri ac estyniadau i seleri

Addasiadau

  • Pob addasiad i lofftydd, estyniadau i’r to, balconïau a therasau ar y to
  • Pob addasiad i garej
  • Addasiadau i Ysguboriau
  • Rhannu tŷ yn fflatiau
  • Newid fflatiau yn ôl i fod yn dŷ.

Newidiadau

  • Creu ‘rhandy mam-gu’
  • Creu ystafell ymolchi neu dŷ bach newydd neu en-suite
  • Gosod cegin newydd
  • Tynnu wal cynnal pwysau – bydd angen i chi ofyn i beiriannydd strwythurol i gadarnhau nad yw eich wal yn cynnal y waliau, lloriau neu do uwchben.
  • Tynnu allan wal nad sydd yn cynnal pwysau os yw’n sefyll rhwng ystafell a neuadd, grisiau neu landin.
  • Gosod o’r newydd neu ailosod teclyn tanwydd solet
  • Gosod o’r newydd neu ailosod system gwresogi neu foeler beth bynnag y math o danwydd
  • Gosod o’r newydd neu ailosod tanc olew
  • Gosod ystafell ymolchi newydd os oes newid i’r pibelli presennol neu os oes pibelli newydd yn cael eu gosod
  • Gosod systemau aerdymheru parhaol
  • Gosod gwresogyddion ychwanegol i rai systemau gwresogi cyfredol
  • Ailosod blychau ffiwsiau, unrhyw osodiad trydanol wedi ei gysylltu i’r blwch ffiwsys a newidiadau i osodiadau trydanol mewn ystafelloedd ymolchi o gwmpas y bath neu gawod, ailosod ffenestri a drysau
  • Gosod goleuadau ar y to
  • Gwneud ffenestri neu ddrysau yn fwy llydan neu’n fwy tal
  • Ailosod gorchuddiadau ar y to ar doeau ar oddef neu doeau gwastad hyd yn oed os yw hyn yn ailosod tebyg at debyg
  • Ailosod llawr

Newid Materol mewn Defnydd

Mae yna newid materol mewn defnydd ble mae yna newid yn nibenion neu amgylchiadau defnydd yr adeilad, fel, ar ôl y newid:

  • Defnyddir yr adeilad fel cartref, lle nad oedd gynt
  • Bydd yr adeilad yn cynnwys fflat, lle nad oedd gynt
  • Defnyddir yr adeilad fel gwesty neu dŷ llety, lle nad oedd gynt
  • Defnyddir yr adeilad fel sefydliad, lle nad oedd gynt
  • defnyddir yr adeilad fel adeilad cyhoeddus, lle nad oedd gynt
  • nid yw’r adeilad yn adeilad a ddisgrifir yn nosbarthiadau 1 i 6 yn Atodiad 2 y Rheoliadau Adeiladu, tra’r roedd yn cael ei ddisgrifio felly gynt
  • mae’r adeilad, sy’n cynnwys o leiaf un drigfan, yn cynnwys mwy neu lai o  drigfannau nag yr oedd gynt
  • mae’r adeilad yn cynnwys ystafell at ddibenion preswyl, lle nad oedd gynt
  • mae’r adeilad, sy’n cynnwys o leiaf un ystafell at ddibenion preswyl, yn cynnwys fwy neu lai o ystafelloedd nag yr oedd gynt
  • defnyddir yr adeilad fel siop, lle nad oedd gynt

Gellir gwneud peth gwaith heb ddweud wrth Reolaeth Adeiladu os ydych yn defnyddio gosodwr cofrestredig o gynllun personau cymwys, gan gynnwys y canlynol:

  • y rhan fwyaf o atgyweiriadau, ailosod a gwaith cynnal a chadw (ac eithrio ailosod teclynnau ymlosgi, tanciau olew, blychau ffiwsys neu unedau gwydr y mae angen hysbysu amdanynt)
  • Pwyntiau pŵer neu oleuo neu unrhyw newidiadau eraill i gylchedau cyfredol (ac eithrio o gwmpas baddonau neu gawodydd)  
  • Ailosod tebyg wrth debyg baddonau, toiledau, ffenestri, basnau neu sinciau.

Beth yw cynllun personau cymwys?

Gellir gwneud peth gwaith heb ddweud wrth Gorff Rheolaeth Adeiladu cyhyd a’ch bod yn defnyddio gosodwr cofrestredig o dan Gynllun Personau Cymwys (CPC).

Mae gosodwr sydd wedi ei gofrestru gyda Chynllun Personau Cymwys yn gymwys i wneud rhai mathau o waith yn unol â Rheoliadau Adeiladu a dylai hysbysu’r awdurdod lleol am y gwaith a rhoi tystysgrif o gydymffurfiad gyda Rheoliadau Adeiladu naill ai’n uniongyrchol gyda'r gweithredwr y cynllun.

Os nad ydych yn derbyn tystysgrif o fewn 30 diwrnod o gwblhau’r gwaith, cysylltwch â gweithredwr y Cynllun Personau Cymwys y mae eich gosodwr wedi cofrestru ag e ac efallai y byddan nhw’n gallu eich helpu i ddatrys hyn.

Os nad ydych chi’n defnyddio gosodwr sydd wedi cofrestru gyda Chynllun Personau Cymwys yna bydd rhaid i chi gyflwyno hysbysiad adeiladu neu gais cynlluniau llawn a thalu ffi i gael Corff Rheolaeth Adeiladu i ddod ag archwilio’r gwaith.

Sut gallaf i ddod o hyd i osodwr sydd wedi cofrestru gyda Chynllun Personau Cofrestredig yn fy ardal neu wirio bod y gosodwr yr ydw i’n dewis mewn cynllun?

Ewch i www.competentperson.co.uk a rhowch eich cod post neu enw eich gosodwr yn y blwch chwilio perthnasol.

Dyma restr o’r mathau o waith sy’n dod o dan y Cynllun Personau Cymwys.

  • Gosod inswleiddio wal geudod
  • Gosod inswleiddio wal solet
  • Gosod offer nwy
  • Gosod offer tanwydd solet
  • Gosod offer olew
  • Gosod neu newid systemau dŵr poeth neu wresogi wedi’u cysylltu ag offer nwy
  • Gosod neu newid systemau gwresogi neu ddŵr poeth wedi’u cysylltu â tharddiad gwres trydan
  • Gosod systemau aerdymheru neu awyru mecanyddol sefydlog
  • Unrhyw waith gosod trydanol mewn cartrefi
  • Gwaith gosod trydanol dim ond wedi ei gysylltu â gwaith arall (e.e. gosod cegin, gosod gwresogydd)
  • Ailosod ffenestri , drysau, ffenestri to neu oleuadau to mewn cartrefi
  • Gosod systemau peipiau dŵr a chyflenwi dŵr ac ystafelloedd ymolchi a chyfarpar glanweithdra
  • Ailosod gorchuddion to ar doeau ar oleddf a gwastad (heb gynnwys paneli heulol)
  • Gosod technolegau meicrogynhyrchu neu adnewyddol

Os yw eich prosiect yn cynnwys gwaith na chyfeirir ato uchod, bydd angen i chi siarad â’ch tîm rheolaeth adeiladu lleol a fydd yn falch o roi cymorth.

Eithriadau

Mae eithriadau’n cynnwys:

Adeiladau sy’n cael eu rheoli o dan ddeddfwriaeth arall

  • Adeiladau sy’n cael eu rheoli gan y Deddfau Ffrwydron.
  • Adeiladau heb fod yn dai neu’n swyddfeydd a godwyd ar safle trwyddedig o dan y Ddeddf Gosodiadau Niwclear.
  • Adeiladau a gynhwysir yn yr Atodiad i Adran 1 y Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 

Adeiladau nad oes pobl yn eu defnyddio

Adeiladau ar wahân yw’r rhain, ac maen nhw’n rhai nad yw pobl fel arfer yn mynd i mewn iddynt, neu’n mynd i mewn iddynt yn achlysurol i archwilio offer a pheiriannau.

Mae’r eithriad yma’n berthnasol dim ond os yw’r adeilad wedi ei leoli o leiaf un a hanner gwaith ei uchder naill ai o’r ffin neu o unrhyw bwynt mewn adeilad y mae pobl fel arfer yn mynd i mewn iddo.

Tai Gwydr ac Adeiladau Amaethyddol

Caiff Tai Gwydr eu heithrio dim ond os nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer manwerthu, pacio neu arddangos.

Caiff Adeiladau Amaethyddol ac Adeiladau sy’n bennaf ar gyfer cadw anifeiliaid yn cael eu heithrio os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio fel trigfan, os ydyn nhw o leiaf un a hanner gwaith eu huchder o unrhyw adeilad bel mae lle i gysgu ac mae ganddyn nhw allanfa dân nid mwy na 30m o unrhyw bwynt mewn adeilad.

Adeiladau Dros Dro

Rheiny sy’n sefyll am lai na 28 diwrnod

Adeiladau Ategol

  • Swyddfeydd ar safleoedd adeiladu nad sy’n cynnwys lle i gysgu.
  • Adeiladau gwerthiant ystadau.
  • Adeiladau ac eithrio cartrefi neu swyddfeydd  a ddefnyddir mewn cysylltiad â mwynglawdd neu chwarel.

*Adeiladau Bach ar Wahân

Adeiladau un llawr llai na 30m2 o arwynebedd, heb le i gysgu, adeiladwyd i raddau helaeth o ddeunydd anllosgadwy, neu sydd wedi eu leoli o leiaf un metr o’r ffin neu gwrtil (e.e. garej ar wahân).

Llochesau niwclear o dan 30m2 o arwynebedd: ble mae’r cloddio ar gyfer y lloches ddim yn agosach at adeiladau eraill na dyfnder y cloddio ac un metr.

Gall adeilad ar wahân, gydag arwynebedd llawr nid mwy na 15m2, heb le i gysgu, gael ei wneud o unrhyw ddefnydd.

*Estyniadau i Adeiladau ar lefel llawr gydag arwynebedd llawr nid mwy na 30m2 sydd yn

  • Ystafell wydr neu gyntedd
  • Iard o dan orchudd neu ffordd o dan orchudd
  • Porth ceir sydd ar agor ar o leiaf dwy ochr.  Gellir cyfri’r naill ben a’r llall fel ochrau a chaniateir drysau/ffenestri rhwng y tŷ a’r porth

(*Mae ystafelloedd gwydr neu gynteddau yn cael eu heithrio dim ond os yw’r gwydr sydd ynddyn nhw’n cydymffurfio â Rhan N o’r Rheoliadau Adeiladau.)

Dyw estyniad ddim yn cael ei eithrio serch hynny os yw’n mynd yn ffordd llwybr dianc h.y. o lofft sy’n bodoli eisoes neu ystafell arall ar yr ail lawr.

Eiddo’r Goron

Ar hyn o bryd does dim rhwymedigaeth gyfreithiol i’r Goron gydymffurfio â gofynion trefniadol y Rheoliadau Adeiladu. Mae Adran 44 y Ddeddf Adeiladu 1984 yn dweud y bydd y darpariaethau cadarnhaol yn berthnasol i waith a wneir gan un o Awdurdodau’r Goron, p’un ai yw’n ymwneud ag Adeilad y Goron ai peidio.

Cafodd Breinryddid y Goron at ddibenion Rheoliadau Adeiladu ei ddileu o 1af Ebrill 1991 o ran gwaith adeiladu i’w gwblhau ar dir a feddiannir gan gyrff y gwasanaeth iechyd (Adran 60 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990).

Cynigir dileu Breinryddid y Goron ar gyfer amrywiaeth o gyrff eraill, gan gynnwys gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi eu preifateiddio erbyn hyn.

Ble mae cynlluniau wedi eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Chyflogaeth, mae ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yn cael eu heithrio rhag gofynion y Rheoliadau.  Mae rhai adeiladau sy’n eiddo i ymgymerwyr statudol a chyrff penodol eraill hefyd wedi eu heithrio.

*Meini prawf ar gyfer eithrio ar brosiectau cyffredin

Ystafelloedd Gwydr

I gael ei heithrio rhaid i’ch ystafell gwydr gwrdd â’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid ei bod ar lefel llawr yn unig
  • Rhaid i’r llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Rhaid i nid llai na tri chwarter y to ac nid llai na hanner arwynebedd waliau allanol yr ystafell gael eu gwneud o ddefnydd lled dryloyw
  • Rhaid iddi beidio cael ei defnyddio at ddibenion eraill (e.e. Cegin neu le i fyw/cysgu)
  • Rhaid cadw drysau a/neu ffenestri mynediad allanol
  • Rhaid defnyddio gwydr diogelwch
  • Rhaid i’r system gwresogi fod ar wahân a heb gael ei hymestyn o’r prif dŷ a rhaid bod ganddi reolaeth ar wahân

Cynteddau

I gael ei eithrio rhaid i’ch estyniad fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid ei fod ar lefel llawr yn unig
  • Rhaid i’r llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Rhaid iddi beidio cael ei defnyddio at ddibenion eraill (e.e. Cegin neu le i fyw/cysgu)
  • Rhaid cadw drysau a/neu ffenestri mynediad allanol
  • Rhaid defnyddio gwydr diogelwch
  • Rhaid i’r system gwresogi fod ar wahân a heb gael ei hymestyn o’r prif dŷ a rhaid bod ganddi reolaeth ar wahân

Pyrth Ceir

I gael ei eithrio rhaid i’ch porth car fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid ei fod ar lefel llawr yn unig
  • Rhaid i’r llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Rhaid i’r porth fod ar agor ar o leiaf dau ochr

Garej / Adeiladau Bach ar wahân

I gael ei eithrio rhaid i’ch garej fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid bod ar wahân
  • Rhaid bod yn un llawr
  • Rhaid i’r llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 30 metr sgwâr
  • Rhaid iddo beidio cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill (e.e. Cegin neu le i fyw/cysgu)
  • Mwy nag 1 metr o’r ffin neu fod yn llwyr anllosgadwy
  • Ar gyfer unrhyw wasanaethau e.e. trydan, draenio, rhaid cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu

Adeiladau allanol /siediau bach (Adeiladau ar wahân)

I gael ei eithrio rhaid i’ch sied fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid bod ar wahân
  • Rhaid i’r llawr mewnol beidio â bod yn fwy na 15 metr sgwâr
  • Rhaid iddo beidio cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill (e.e. Cegin neu le i fyw/cysgu)
  • Ar gyfer unrhyw wasanaethau e.e. trydan, draenio, rhaid cyflwyno cais Rheoliadau Adeiladu
Diwygiwyd Diwethaf: 18/05/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rheoli Adeiladu

Ffôn: 01633 647300

Ebost: buildingcontrol@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig