Cynllun Cofrestru Arddangosfeydd Tân Gwyllt

Ydych chi'n bwriadu cynnal arddangosfa dân gwyllt eleni?

I sicrhau bod pawb yn mwynhau digwyddiad hapus, heb ddamweiniau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn cynnig Cynllun Cofrestru Arddangosfeydd Tân Gwyllt Gwirfoddol yn rhad ac am ddim i'r rheiny sy'n trefnu arddangosfeydd tân gwyllt yn yr ardal.

Eleni, y dyddiad cau ar gyfer cwblhau ffurflenni cais i gofrestru digwyddiadau yw 6 Hydref 2023 neu 28 diwrnod cyn unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys tân gwyllt neu goelcerth.

Unwaith y byddwn yn derbyn ffurflen gais wedi ei chwblhau, byddwn yn trefnu apwyntiad i gynnal ymweliad ymgynghorol â'r safle ac efallai argymell rhai gwelliannau.

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn derbyn Tystysgrif Gofrestru.

I wneud cais i gofrestru, lawr lwythwch gopi o'r ffurflen gais.

Sŵn, gwerthu a defnyddio tân gwyllt

Dod o hyd i wybodaeth bellach am lygredd sŵn a gwerthu tân gwyllt a'u defnyddio.

Canllawiau Pellach ar Dân Gwyllt

Ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am gyngor pellach ar iechyd a diogelwch wrth drefnu arddangosfeydd tân gwyllt.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn cyhoeddi dwy ddogfen sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol i'r rheiny sydd am gynnal arddangosfa dân gwyllt.

HSG 123 " Cydweithio ar arddangosfeydd tân gwyllt" Mae'r cyhoeddiad hwn wedi ei anelu at y rheiny sy'n trefnu a chynnal arddangosfeydd. Nid yw'n cwmpasu arddangosfeydd os ydynt yn cael eu trefnu gan bobl sydd heb wybodaeth arbenigol neu heb dderbyn hyfforddiant.

HSG 124 "Cynnal eich arddangosfa tân gwyllt eich hun" - Mae'r llyfr hwn ar gyfer y bobl hynny fydd yn trefnu a chynnau arddangosfeydd tân gwyllt, nad ydynt yn meddu ar wybodaeth arbenigol.

NODYN: Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn trefnu, cynnal na goruchwylio’r digwyddiadau hyn. Mae trefnwyr y digwyddiadau hyn wedi cael cyngor ar ddiogelwch gan y Cyngor a/neu Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch a ddarparwyd yn unol â chyhoeddiadau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch "Cynnal eich arddangosfa dân gwyllt eich hun: Sut i'w gynnal a'i danio'n ddiogel" a "Cydweithio ar arddangosfeydd tân gwyllt: Canllaw diogelwch ar gyfer trefnwyr a gweithredwyr arddangosfeydd tan gwyllt

Diwygiwyd Diwethaf: 22/09/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Iechyd a Diogelwch

Ffôn: 01633 647260

E-bost: foodandhealthprotection@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig