Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Medi 2025
Ysgol Gymraeg Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl, yw'r ysgol gyntaf i lansio menter rhannu bwyd gymunedol newydd i deuluoedd disgyblion o bob oed.
Mae Big Bocs Bwyd yn fenter yng Nghymru sy'n tyfu'n gyflym ac mae’n trawsnewid y ffordd y mae ysgolion yn mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd, gweithredu dros yr hinsawdd, a llesiant cymunedol.
Agorodd y fenter yn swyddogol ddydd Gwener, ac mae ar gael i bob rhiant a gofalwr sydd â disgyblion yn yr ysgol ac yn cynnig bwyd am gost isel ar sail "talu beth allwch chi".
Mae hefyd yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, a’r bwriad yw cael disgyblion i dyfu eu llysiau eu hunain, creu cardiau ryseitiau, a helpu i redeg y Bocs ochr yn ochr â staff a gwirfoddolwyr.
Meddai Cath Evans, Pennaeth Ysgol Gymraeg Gwynllyw: "Rydyn ni’n falch mai ni yw’r cyntaf i gynnig mynediad i deuluoedd disgyblion ysgol uwchradd i'r Big Bocs Bwyd. Mae hyn yn fwy na bwyd - mae'n grymuso’n disgyblion, yn cefnogi teuluoedd, ac ym meithrin cymuned gryfach, fwy cydnerth."
"Mae'r prosiect yn rhoi profiad ymarferol o gynaliadwyedd a gweithredu cymunedol i'n disgyblion, ac rydym yn annog rhieni i beidio â cholli'r cyfle gwych hwn."
Gall teuluoedd disgyblion meithrinfa, addysg gynradd, uwchradd a chweched dosbarth Ysgol Gymraeg Gwynllyw gael mynediad i'r cynllun.
Mae Big Bocs Bwyd ar agor bob dydd Llun, dydd Mercher, a dydd Gwener tu allan i dderbynfa'r ysgol - rhwng 8:15 a 9:15am yn y bore, ac o 2:50 i 3:30pm yn y prynhawn.
Croesewir rhoddion o fwydydd tun a bwydydd eraill nad ydynt yn pydru hefyd.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae hon yn enghraifft wych o sut mae ysgolion yn cefnogi teuluoedd. Trwy gynnig bwyd fforddiadwy a dysgu ymarferol, mae'n grymuso disgyblion ac yn helpu i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd.
"Mae hefyd yn cryfhau ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd - gan roi'r sgiliau i bobl ifanc i arwain ar gynaliadwyedd a llesiant. Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth hyn yn bosibl."
Dechreuodd Big Bocs Bwyd yn Ysgol Gynradd Tregatwg, yn y Barri, gyda chefnogaeth gynnar gan Waterloo Foundation a Llywodraeth Cymru.
Nawr, mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac mae'n cael ei gefnogi gan bartneriaid fel Enterprise Cars, Castell Howell, a FareShare Cymru.
Am ragor o wybodaeth am Big Bocs Bwyd, ewch i: www.bigbocsbwyd.co.uk