Cipolwg i ddisgyblion ar fferm gymunedol ar ei newydd wedd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Medi 2025
Greenmeadow Farm

Yr wythnos hon, cafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Greenmeadow gipolwg ar Fferm Gymunedol Greenmeadow ar ei newydd wedd, cyn iddi ailagor yn swyddogol ddydd Sadwrn, 13 Medi.

Aeth y plant ar daith o amgylch y safle, gan fwydo defaid yn Ysgubor yr Anifeiliaid, mwytho cwningod a moch cwta yn y Gornel Cwtshys newydd sbon, a mwynhau taith ar dractor a threlar dros dir y Fferm.

Roedd cyfle hefyd iddyn nhw gwrdd â masgot cyfeillgar y Fferm, 'Rex' y ddraig, a chael gwared ar ychydig o’u stêm yn yr ardal chwarae antur newydd o bren, a'r Ysgubor Chwarae dan do.

Meddai Darcy, disgybl o flwyddyn 2: "Roeddwn i wrth fy modd â'r daith ar y tractor, roedd yn anesmwyth ond yn llawer o hwyl ac roedden ni wrth ein bodd yn gwylio'r anifeiliaid i gyd, gan gynnwys y mochyn bach drwg a lwyddodd i ddianc."

Meddai Henry, disgybl o flwyddyn 2: "Cawson ni amser gwych yn bwydo'r geifr ac roedd yr Ysgubor Chwarae yn anhygoel.  Alla’ i ddim aros i fynd nôl gyda fy nheulu."

Bydd y Fferm yn agor y penwythnos hwn, a bydd yn cynnig teithiau i ysgolion sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm o ddydd Llun, 22 Medi.

Bydd disgyblion yn gallu archwilio testunau fel cynhyrchu bwyd, gofalu am anifeiliaid, cynaliadwyedd a bioamrywiaeth mewn amgylchedd ymarferol, difyr sy’n cynnwys gweithdai a gweithgareddau tymhorol fel:

  • Gwneud Menyn – troi hufen ffres yn fenyn euraidd.
  • Arddangosiadau Godro – cyfle i gwrdd â gwartheg Ffrisia Prydeinig a dysgu sut mae llaeth yn cael ei gynhyrchu.
  • Canhwyllo a Chyffwrdd – cyfle i weld datblygiad cywion bach yn yr wy.
  • Coetiroedd a Chynefinoedd – adeiladu den, cynnau tân, a thostio malws melys.
  • Casglu Wyau – dilyn y daith o’r sied ffowls i’r gegin.

Meddai Claire Moses, Pennaeth Ysgol Gynradd Greenmeadow:

"Cafodd ein disgyblion amser gwych ar y Fferm. Daeth yr ymweliad â’r dysgu yn fyw mewn ffordd sy'n anodd ei hail-greu yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r arlwy addysgol newydd yn amrywiol, yn gadael i’r disgybl ymgolli yn y profiad ac yn cyd-fynd yn berffaith â'r cwricwlwm. Rydyn ni’n cynllunio ein hymweliad nesaf yn barod!"

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Nid dim ond atyniad i ymwelwyr yw Fferm Gymunedol Greenmeadow, mae'n fferm weithiol sydd ag arlwy addysgol gyfoethog i ysgolion ar draws y rhanbarth.

"Yn rhan o'n hymgyrch 'Ddim Mewn Colli Mas', rydyn ni'n atgoffa teuluoedd fod pob diwrnod ysgol yn cyfrif – a ddylai diwrnodau fel hyn ddim cael eu colli. Maen nhw'n llawer o hwyl ac yn helpu i fagu’r sgiliau, yr hyder a'r chwilfrydedd sydd eu hangen ar blant i ffynnu."

"Trwy amcanion llesiant ein Cynllun Sirol, rydym wedi ymrwymo i godi cyrhaeddiad addysgol a hyrwyddo cyfleoedd i blant a theuluoedd ar draws Torfaen."

Meddai Claire Barton, o dîm addysg y Fferm: "Mae ymweliadau addysgol fel hyn yn hanfodol. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd i blant ddysgu a dod i gyswllt â byd natur mewn ffyrdd ystyrlon. Mae'r profiadau hyn yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru newydd trwy wella dealltwriaeth disgyblion am y byd naturiol ac annog creadigrwydd, hyder a menter.

Mae'r prisiau’n dechrau ar £5 y disgybl.

Am ragor o wybodaeth am Fferm Gymunedol Greenmeadow a'i harlwy addysgol, ewch i www.greenmeadowcommunityfarm.org.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 12/09/2025 Nôl i’r Brig