Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Medi 2025
Mae digwyddiad torri tir wedi'i gynnal i nodi dechrau'r gwaith ar faes 3G newydd a gwell ardaloedd aml-gemau yng Nghwmbrân.
Bydd y datblygiad gwerth £1.2m yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân yn cynnwys arwyneb cae 3G ardystiedig gan FIFA a World Rugby ac adnewyddu ardal redgra presennol ar gyfer hoci.
Ddydd Iau, ymunodd Arweinydd y Cyngor Anthony Hunt, y Cyng. Rosemary Seaborne a'r Cyng. Jayne Watkins â phennaeth Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Matthew Sims, Cadeirydd y Llywodraethwyr John Healy a disgyblion i nodi dechrau'r gwaith.
Dywedodd y Cyng. Hunt: "Rwy'n falch ein bod ni'n gallu nodi'r achlysur hwn a hoffwn ddiolch i staff, llywodraethwyr a disgyblion am eu mewnbwn.
"Rwy'n cofio dod i'r ysgol a gofyn i ddisgyblion beth yr hoffent ei weld yma ac, er nad ydym bob amser yn gallu cyflawni popeth, mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar ddisgyblion ac yn ceisio ein gorau i roi'r cyfleusterau y mae eu hangen arnynt."
Ychwanegodd Mr Sims: "Bydd y maes 3G newydd nid yn unig yn gwella cyfleoedd chwaraeon i'n disgyblion ond bydd hefyd yn cryfhau ein cysylltiadau â'r gymuned leol. Mae'n amser balch i'r ysgol ac yn arwydd o'n twf a'n huchelgais parhaus.
"Mae hefyd yn ddatblygiad cyffrous sy'n nodi carreg filltir arwyddocaol i Ysgol Uwchradd Cwmbrân wrth i ni agosáu at ein pen-blwydd yn 10 oed ym mis Hydref."
Disgwylir i'r gwaith ar gae 3G newydd ac ardal hoci - a fydd yn cynnwys llifoleuadau, ffensys, coed newydd a dôl blodau gwyllt - gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Bydd y caeau ar gael i'r ysgol ac i glybiau lleol eu llogi.
Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae'n dilyn cwblhau caeau 3G eraill yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, a agorodd y llynedd, ac ysgolion cynradd Abersychan a Llantarnam, a gwblhawyd yn gynharach eleni.
Fis diwethaf, cymeradwyodd y cyngor hyd at £200,000 ar gyfer cae pob tywydd newydd yn Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon. Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn yr hydref.