Llwyddiant Gŵyl Gefeillio Torfaen

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 10 Medi 2025
Twinning festival

Daeth grŵp o 31 o bobl ifanc o bedair tref Ewropeaidd â chyfnewidiad diwylliannol wythnos o hyd ym Mhont-y-pŵl i ben ddiwedd mis Awst.

Ysgogodd yr achlysur, a arweiniodd at gynhadledd bwerus dan arweiniad ieuenctid, cynghorwyr cymuned lleol i ymrwymo i ehangu cyfleoedd ymgysylltu â threftadaeth i bobl ifanc.

Croesawodd yr Ŵyl Gefeillio, a gynhaliwyd eleni gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Torfaen, gynrychiolwyr ieuenctid 14–17 oed o Bretten (yr Almaen), Condeixa (Portiwgal), Longjumeau (Ffrainc), a Phont-y-pŵl ei hun.

Mae'r digwyddiad blynyddol yn symud yn flynyddol rhwng y pedair tref yn eu tro, a'i nod yw meithrin cyfeillgarwch rhyngwladol, dealltwriaeth ddiwylliannol, ac ymgysylltiad dinesig.

Fel rhan o thema eleni, treftadaeth, aeth cyfranogwyr i weld gorffennol diwydiannol De Cymru gydag ymweliadau ag Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit a Bae Caerdydd, ochr yn ochr â gweithgareddau awyr agored gan gynnwys taith i Ynys y Barri.

Anna Nöltner, 17, o Bretten. "Y peth mwyaf cyffrous oedd cael gweld Cymru, yn enwedig Big Pit. Does dim ots os ydych chi'n siarad ieithoedd gwahanol - gallwch chi ddod yn ffrindiau o hyd."

Dywedodd Cassiano Branco Da Silva, 16, o Bortiwgal: "Mae gefeillio’n rhoi'r cyfle i chi rannu profiadau a meithrin cysylltiadau. Byddaf yn gwerthfawrogi'r atgofion a'r cyfeillgarwch rydyn ni wedi'u gwneud."

Dywedodd Erin Eugene, 17, o Ffrainc: "Mae'n ymwneud â dathlu cenedligrwydd a gwahaniaethau ei gilydd. Mae dysgu am ieithoedd a chreu atgofion newydd wedi bod yn anhygoel."

Daeth yr ŵyl i ben gyda chynhadledd yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, lle cyflwynodd cynrychiolwyr ieuenctid eu myfyrdodau ar dreftadaeth a gwerth cyfnewid rhyngwladol.

Fe wnaeth eu mewnwelediadau ysgogi Cynghorwyr Cymuned Pont-y-pŵl i addo cydweithio parhaus â Chyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl i ddatblygu cynlluniau newydd sy'n hyrwyddo hanes lleol ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ymhlith pobl ifanc.

Dywedodd Ruby Higgs, 16 oed, sy'n cynrychioli Cyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl: Mae'r Ŵyl Gefeillio yn gyfle mor anhygoel i ehangu gorwel pobl ifanc. Fe wnaeth fy helpu i roi tro ar rywbeth newydd a chysylltu â phobl o’r un oedran o wledydd eraill."

Bydd y Cyngor Ieuenctid, sy'n cyfarfod yn wythnosol, yn cyflwyno ei ganfyddiadau i'r Cyngor Cymuned llawn ym mis Hydref ac i Gynghorwyr Torfaen yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd David Williams, Rheolwr y Gwasanaeth Ieuenctid: "Gweithiodd aelodau ein Cyngor Ieuenctid yn galed iawn i sicrhau bod yr ymweliad yn ysbrydoli, yn addysgu ac yn dangos y gorau o Dorfaen.

"Bydd y gweithgaredd Gwaith Ieuenctid hwn yn cael effaith anhygoel ar fywydau pobl ifanc, a fydd yn aros gyda nhw am weddill eu bywydau."

Gall pobl ifanc 14+ oed sydd â diddordeb mewn ymuno â’r Cyngor Ieuenctid ym mhont-y-pŵl neu Gwmbrân, ddanfon e-bost at david.williams@torfaen.gov.uk neu fynd at @torfaenyouth ar Facebook neu Instagram.

Diwygiwyd Diwethaf: 10/09/2025 Nôl i’r Brig