Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 17 Hydref 2025
Mae bron i 20 o bobl wedi cofrestru i ddod yn llysgenhadon iechyd lleol ac i ysbrydoli pobl eraill i fyw bywydau mwy heini ac iach.
Mae'r cynllun Hyrwyddwyr Iechyd yn cynnig cyfle i bobl ddysgu sgiliau a magu hyder i gynnal gweithgareddau llesiant ar draws Torfaen.
Hyd yn hyn, mae 18 o wirfoddolwyr wedi cofrestru ar gyfer amrywiaeth o raglenni hyfforddi, gan gynnwys Arwain Teithiau Cerdded Llesiant, Cymorth Cyntaf Awyr Agored, Hyfforddwr Personol Lefel 3, Cyfeillio, dewisiadau eraill sy'n addas i'w rolau.
Cefnogir y fenter, a lansiwyd ym mis Mehefin, gan £1,800 o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac mae’n cael ei hwyluso gan dîm Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Cyngor Torfaen.
Un o'r cyntaf i ennill ei chymhwyster yw Michelle Collins, o Gwmbrân, sydd wedi bod yn wirfoddolwr gweithgar am y tair blynedd diwethaf, yn cefnogi banciau bwyd lleol a chynlluniau cyfeillio.
Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant, mae Michelle yn bwriadu helpu trigolion trwy arwain teithiau cerdded llesiant byr, hygyrch yn ardaloedd Garndiffaith, Farteg a Thal-y-waun, i helpu pobl i wella eu llesiant corfforol a meddyliol. Bydd hi'n hyrwyddo'r teithiau cerdded ar wefan Cysylltu Torfaen.
Meddai Michelle: "Mae'n gynllun diddorol iawn sy'n werth y gwaith sy'n gysylltiedig â'r hyfforddiant. Mae wedi fy helpu i wella fy llesiant fy hun ac rwy'n gyffrous i rannu fy mhrofiad gyda phobl eraill.
"Rwy'n edrych ymlaen at arwain teithiau cerdded llesiant a darganfod bod treulio amser allan ym myd natur yn ein helpu ni i gyd i feithrin cysylltiad â'n gilydd. Rwy'n gobeithio ysgogi eraill a’u cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol".
Yn ogystal â hyfforddiant, mae pob Hyrwyddwr Iechyd yn cael eu mentora a’u cefnogi gan staff Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Torfaen i sicrhau bod ganddynt y gefnogaeth i gynnal sesiynau diogel ac effeithiol yn y gymuned.
Gofynnir i hyrwyddwyr ganolbwyntio ar un o dri maes - cyflwyno gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rhaglen gymunedol bresennol, sefydlu eu gweithgareddau eu hunain, neu godi ymwybyddiaeth am wasanaethau iechyd a llesiant eraill.
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall ein timau weithio gyda phobl i roi'r sgiliau a'r cymwysterau iddynt i wella iechyd a llesiant eu cymunedau lleol.
"Bydd llawer o bobl ddim yn gallu fforddio ymuno â champfa neu ddim yn ddigon hyderus i wneud hynny, felly bydd cael gweithgareddau am ddim neu am gost isel ar garreg eu drws o fudd mawr i lawer o breswylwyr."
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen Hyrwyddwyr Iechyd neu sut i gymryd rhan, ewch i: sportsdevelopment@torfaen.gov.uk | 01633 628936.