Dilyn ôl traed teulu i faethu

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 15 Hydref 2025
Carys

Mae tyfu ochr yn ochr â phlant maeth wedi ysbrydoli un ferch 25 oed i ddod yn ofalwr maeth ei hun.

Roedd Carys, o Gwmbrân, yn 9 oed pan ddaeth ei rhieni, Kate a Darren, yn ofalwyr maeth gyda’r awdurdod lleol.

Ers hynny maen nhw wedi darparu gofal dydd i chwech o blant, seibiant i 30 o blant a lleoliadau maeth i 20 arall.

Ar ôl cael ei llenwi â brwdfrydedd gan dyfu mewn cartref maethu, mae Carys, sy'n gweithio'n llawn amser, bellach wedi gwneud cais i fod yn ofalwr maeth seibiant ei hun.

Dywedodd: "Mae maethu’n beth cyffredin i fi. Rydw i wedi tyfu gyda maethu a'r ddeinameg deuluol sy'n dod gydag hynny. Rwy'n mwynhau cael llawer o bobl o gwmpas ac mae rhoi’r amgylchedd hwnnw i blant eraill yn rhywbeth sy'n teimlo'n werth chweil i mi.

"Gall fod yn heriol weithiau ond rydym wedi bod yn ffodus o gael llawer o leoliadau hirdymor, cadarnhaol ac o fod wedi integreiddio'r plant i'n teulu."

Yr wythnos hon yw Wythnos Plant Gofalwyr Maeth, sy'n anelu at ddathlu'r rôl y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae wrth helpu plant maeth i fwynhau bywyd teuluol.

Dywedodd Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen: "Efallai y bydd rhai pobl yn dweud bod yr effaith bosibl ar eu plant yn un o'r rhwystrau rhag dod yn ofalwr maeth ond mae llawer o blant yn cael manteision o fod yn rhan o deulu sy'n maethu.

"Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad sy’n cyfoethogi ac a all helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn canfod y gallant ddatblygu eu cysylltiadau eu hunain gyda phlant sy'n cael eu maethu yn eu cartref."

Gofal maeth seibiant yw pan fydd gofalwyr maeth yn darparu cartref dros dro i blentyn neu berson ifanc am hyd at ychydig wythnosau.

Yn Nhorfaen, mae llawer o deuluoedd yn maethu plant ochr yn ochr â magu eu teulu eu hunain - ond gyda'r galw cynyddol, mae angen mwy o deuluoedd fel y rhain ar frys.

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yn Nhorfaen, ewch i https://torfaen.maethucymru.llyw.cymru

I glywed am unrhyw ddigwyddiadau lleol, ewch i'n tudalen Facebook: https://www.facebook.com/fosterwalestorfaen

Maethu Cymru yw'r rhwydwaith cenedlaethol o bob un o'r 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru, sy'n gweithio gyda'i gilydd i adeiladu dyfodol gwell i blant ledled Cymru.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/10/2025 Nôl i’r Brig