Helpwch bobl ifanc i feithrin eu stori

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 13 Hydref 2025
Fostering Teens

Mae tua 150 o blant mewn gofal maeth yn Nhorfaen, bron i hanner ohonynt yn eu harddegau, rhwng 13 a 17 oed.

Mae diffyg gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn golygu bod rhai pobl ifanc mewn gofal yn gorfod symud i ffwrdd i fyw gyda gofalwyr maeth annibynnol neu ddarparwyr preswyl.

Mae ymchwil yn dangos y gall cael eu gorfodi i symud i ffwrdd yn y cyfnod pwysig hwn yn eu bywydau gael effaith sylweddol ar les meddyliol ac emosiynol pobl ifanc yn eu harddegau, yn ogystal â'u haddysg.

Mae ymgyrch bellach ar y gweill i recriwtio mwy o ofalwyr maeth lleol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau fel y gallan nhw aros yn agos at eu hysgolion a'u ffrindiau.

Yn ogystal â thâl a lwfansau, mae Maeth Cymru Torfaen yn cynnig llu o fanteision gan gynnwys mynediad at gymorth lleol a rhwydweithiau maethu, a hyfforddiant a datblygu.

Ond i lawer o ofalwyr maeth, helpu pobl ifanc yn eu harddegau i ddod o hyd i'w llwybr i ddyfodol disglair a llwyddiannus yw'r atyniad mwyaf.

Mae Rosemary, o Bont-y-pŵl, wedi darparu amrywiaeth o gymorth maethu, o ofal hirdymor i ofal seibiant, ac mae wedi croesawu dros 40 o blant i'w chartref, y rhan fwyaf yn eu harddegau.

Dywedodd Rosemary: "Mae maethu pobl ifanc yn eu harddegau yn gallu bod yn werth chweil iawn ond weithiau'n heriol. Mae llawer o'r arddegau rydw i wedi gofalu amdanynt yn dal i gadw mewn cysylltiad, sy'n anhygoel. Mae eu gweld yn tyfu i fod yn oedolion ac yn cael eu cartrefi sefydlog eu hunain a'u plant eu hunain yn wych."

Cymeradwywyd gofalwyr maeth o Bont-y-pŵl, Ellen a Paul, yn 2014, ac maen nhw wedi cynnig lle i 18 o blant yn y cyfnod hwnnw. Meddai Ellen:

"Roedden ni eisiau her newydd ac roedd maethu yn teimlo'n iawn. Roedd pobl ifanc yn eu harddegau yn addas i ni gan fod y ddau ohonom eisiau parhau i weithio - ac ar ôl magu pump o'n plant ein hunain, roedden ni'n gwybod beth i'w ddisgwyl.

"Nid yw bob amser yn hawdd, ond mae helpu person ifanc i newid cwrs eu bywyd yn hynod werth chweil. Gallwch eu tywys tuag at annibyniaeth trwy eu helpu i ddysgu gyrru, gwneud ceisiadau am swyddi neu ddod o hyd i fflat - gan roi ymdeimlad o bwrpas iddynt."

Gall gofalwyr maeth i bobl ifanc yn eu harddegau ddod o bob cefndir. P'un a yw'n ofal seibiant, lleoliadau tymor byr, neu faethu tymor hwy, mae yna opsiynau sy’n gweddu i wahanol amgylchiadau teuluol.

Yr hyn sy'n bwysicaf yw'r gallu i ddarparu cartref diogel, cefnogol a gofalgar.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Pan fydd pobl yn meddwl am faethu, maen nhw'n aml yn dychmygu plant iau, ond mae angen cariad, arweiniad a chefnogaeth ar bobl ifanc hefyd i gyrraedd cerrig milltir pwysig fel pasio arholiadau a dysgu gyrru.

"Fel gofalwr maeth awdurdod lleol, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn eu helpu i lywio'r blynyddoedd hyn, gan eu paratoi ar gyfer dyfodol disglair a llwyddiannus."

Os ydych chi'n meddwl y gallech helpu person yn ei arddegau i feithrin eu stori eu hunain, ewch i: torfaen.maethucymru.llyw.cymru neu cysylltwch â'r Tîm Lleoli ar 01495 766669.

 

Diwygiwyd Diwethaf: 13/10/2025 Nôl i’r Brig