Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 3 Hydref 2025
Heddiw, daeth disgyblion o ysgolion cynradd ledled Torfaen ynghyd yng Ngwesty'r Parkway yng Nghwmbrân ar gyfer dathliad Windrush arbennig, a gynhaliwyd gan Gyngor Cymuned Cwmbrân fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.
Roedd y digwyddiad yn arddangos gwaith creadigol a gynhyrchwyd gan ddisgyblion yn ystod prosiect ymchwil Hanes Pobl Dduon Windrush, gan gynnwys gwaith celf, barddoniaeth, a chyflwyniadau a gyflwynwyd ar y llwyfan i Henuriaid Windrush a oedd yn bresennol.
Ysbrydolodd thema eleni, "Croeso a Rhannu", fyfyrdodau meddylgar a negeseuon pwerus gan y plant.
Dywedodd Noah, Blwyddyn 6 – Ysgol Gynradd Blaenafon: "Mae wedi bod yn anhygoel dysgu sut y daeth pobl a wynebodd wahaniaethu yn rhan o Brydain Fawr ac maen nhw’n cael eu derbyn bellach am bwy ydyn nhw."
Dywedodd Leia, Blwyddyn 3 – Ysgol Gynradd Blenheim Road: "Fe wnes i fwynhau clywed straeon nad oeddwn wedi dysgu amdanynt o'r blaen. Ni ddylai pobl byth gael eu barnu yn ôl eu hil, eu lliw na’u crefydd. Roeddwn i wrth fy modd yn ysgrifennu fy ngherdd a rhannu fy ngwaith."
Dywedodd George, Blwyddyn 6 – Ysgol yr Eglwys, Henllys: "Roeddwn wrth fy modd yn dysgu am bobl y Caribî a ddaeth i helpu i ailadeiladu ein gwlad ar ôl y rhyfel. Ysgrifennais gerdd am eu taith a thynnais lun o’r llong Empire Windrush y gwnaethon nhw deithio arni."
Cafodd y gwesteion ddau berfformiad gan y cerddorion lleol Holly xxx, a'i rap 'Broken doors' sy’n archwilio themâu o gwmpas chwalu rhwystrau i greu cyfleoedd newydd, a Tallullah Blu a ganodd faled 'The Bristol Shadow', wedi'i hysbrydoli gan hanes pobl dduon.
Roedd yr ysgolion cynradd a gymerodd ran yn cynnwys: Blaenafon, New Inn, Yr Eglwys yng Nghymru, Henllys, Ffederasiwn Blenheim Road a Choed Efa, Cwmffrwdoer, Mair A’r Angylion, Llanyrafon, ac Ysgol Gymraeg Cwmbrân.
Dywedodd Cynghorydd Cyngor Cymuned Cwmbrân, Sean Wharton: "Mae'n wych gweld nifer yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn un o'r achlysuron prin hyn yn Nhorfaen lle mae pobl o wahanol hiliau, diwylliannau a threftadaeth yn dod at ei gilydd fel un.
"Roedd yr ymchwil, y gwaith a'r perfformiadau o safon uchel iawn ac roedd yn amlwg bod yr ysgolion, yr athrawon a'r disgyblion wedi rhoi llawer o amser a sylw i’r prosiect. Roedd hefyd yn amlwg bod hanes Pobl Dduon yn wir yn hanes Cymreig ac mae hynny'n bwysig iawn i'w ddeall."
Ariannwyd digwyddiad Windrush gan Gyngor Cymuned Cwmbrân, gyda chefnogaeth ychwanegol gan grant o £2,000 gan dîm Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent.
Bydd y gwaith celf yn cael ei arddangos yn Siambr y Cyngor cyn bo hir. Cadwch lygad ar wefan y Cyngor Cymuned am ddiweddariadau.