Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025
Disgwylir i waith adnewyddu gwerth £250,000 ddechrau yng nghampfa Stadiwm Cwmbrân ym mis Rhagfyr.
Bydd y prosiect, sy'n rhan o gyfres o welliannau a ariennir gan Halo Leisure, yn golygu offer ffitrwydd newydd sbon, o'r radd flaenaf, sy'n darparu ar gyfer cyfuniad o ymarfer cardio, ymwrthedd, pwysau rhydd, ymarfer corff gweithredol a magu nerth.
Diolch i’r gwaith uwchraddio bydd mwy o le yn y gampfa a bydd yr arwynebedd llawr yn cynyddu i 15,000 troedfedd sgwâr o ardal ymarfer corff, gyda lloriau newydd a dyluniad mewnol lluniaidd, modern.
Er mwyn gwneud y gwaith hwn, bydd y gampfa ar gau rhwng 1 a 5 Rhagfyr, ac yn ailagor ar ei newydd wedd ddydd Gwener, 6 Rhagfyr.
Yn ystod y cyfnod hwn, gall aelodau ddefnyddio'r gampfa a'r stiwdio nerth a ffitrwydd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl.
Meddai Scott Rolfe, Prif Swyddog Gweithredol Halo Leisure: "Mewn ychydig fisoedd, mae ein partneriaeth lwyddiannus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi sicrhau buddion sylweddol er mwyn i'r gymuned leol fod yn fwy actif yn amlach.
"Mae'r trawsnewidiad cyffrous hwn yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau a phrofiadau o'r radd flaenaf ar gyfer ein haelodau."
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Mae'r buddsoddiad hwn yn fwy nag uwchraddio cyfleusterau yn unig. Mae'n golygu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chefnogi llesiant ein trigolion hefyd.
"Trwy weithio'n agos gyda Halo Leisure, rydyn ni’n creu mannau sy'n annog pobl i wella eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl. Mae'r gwelliannau hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod Torfaen yn gymuned iachach, fwy actif i bawb."
Yn gynharach eleni, ail-agorodd Halo Leisure y Sleidiau Dŵr poblogaidd yng Nghanolfan Byw Egnïol Pont-y-pŵl, yn dilyn buddsoddiad o £12,000, a oedd yn cynnwys gwneud arolwg o’r strwythur, y systemau pwmpio, a’r pwyntiau mynediad, a’u gwasanaethu, ochr yn ochr â gwaith trin hylendid dŵr hanfodol.
Mae Snowsport Torfaen hefyd wedi ailagor ar Lethr Sgïo Pont-y-pŵl yn barod ar gyfer tymor y Gaeaf, yn dilyn gwaith uwchraddio helaeth i'r system daenu a system bibellau a phwmp newydd, i wella arwyneb y llethr.
Mae’r buddsoddiadau eraill yn cynnwys gwaith cynnal a chadw ac uwchraddio hanfodol ym mhwll nofio Fairwater, a disgwylir iddo ailagor yn gynnar yn 2026.
Bydd yr holl gyfleusterau eraill yn Stadiwm Cwmbrân ar agor yn ôl yr arfer tra bod y gampfa ar gau.
Mae Halo yn cynnig dewis o becynnau aelodaeth gan gynnwys gostyngiadau i bobl ifanc, pobl sy’n 66 oed neu’n hŷn, y rheiny sydd wedi’u cofrestru’n anabl a phobl sy'n cael rhai budd-daliadau penodol.
Cewch ragor o wybodaeth ar haloleisure.org.uk/memberships. Mae opsiynau Talu Wrth Hyfforddi ar gael hefyd.