Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025
Ymunodd cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Ian Gough, ag arweinwyr ysbrydoledig eraill, yn Ysgol Croesyceiliog, i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yr wythnos hon.
Siaradodd Ian, a chwaraeodd dros Gymru rhwng 1998 a 2010, â thua 200 o fechgyn 11 i 15 oed am ei yrfa rygbi, ei fentrau newydd ym myd busnes, a'i angerdd newydd am hedfan awyrennau.
Roedd yn rhan o banel o siaradwyr, a oedd yn cynnwys yr entrepreneur a'r dylunydd Kevin Mansell-Abell, Richard Selby, Rheolwr Gyfarwyddwr Pro Steel Engineering ym Mhont-y-pŵl, a'r pêl-droediwr a'r entrepreneur lled-broffesiynol Sam Richards.
Siaradodd y siaradwyr gwadd am eu cymhellion, eu llwyddiannau, eu heriau a'u dyheadau. Fe fuon nhw hefyd yn sôn am nodweddion allweddol ar gyfer llwyddiant, er enghraifft dyfalbarhad, arweinyddiaeth gref a gwaith tîm, cyn ateb cwestiynau gan ddisgyblion.
Meddai Finley, disgybl o Flwyddyn 10: "Roeddwn i'n hoff iawn o’r ffordd y soniodd Sam fod yna lawer o lwybrau gwahanol i’ch tywys chi lle rydych chi eisiau bod. Roedd yn wych cael y cyfle i siarad â modelau rôl sydd â gyrfaoedd gwahanol."
Ychwanegodd Leo, disgybl o Flwyddyn 8: "Roedd yn ysbrydoledig iawn. Dysgais, os ydych chi'n credu, yna gallwch chi gyflawni. Dywedodd Ian Gough, os ydych chi eisiau bod yn rhywbeth, yna gwnewch iddo ddigwydd! Roeddwn i’n dwlu ar y ffordd roedd Callum yn dweud nad oedd yn y setiau uchaf ond ei fod eisiau bod yn feddyg, felly gweithiodd yn galed a gwthio’i hun, ac mae’n llawfeddyg nawr."
Ymhlith yr aelodau eraill ar y panel roedd Callum Smith, cyn-ddisgybl o Ysgol Abersychan, sy'n Feddyg Iau ac sy'n ymarfer yn Ysbyty'r Mynydd Bychan, yng Nghaerdydd, a Phil Davies, Cadeirydd Llywodraethwyr hirsefydlog yn Ysgol Croesyceiliog.
Meddai’r Pennaeth, Natalie Richards: "Diolch yn fawr iawn i'n chwe siaradwr anhygoel am rannu eu hamser, eu profiad a'u mewnwelediad yn rhan o'n panel Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. Fe wnaeth eich lleisiau danio sgyrsiau ystyrlon ac ysbrydoli ein bechgyn i feddwl am bwysigrwydd credu ynoch chi’n hun, parch a gwaith tîm yn ogystal â bod yn fodelau rôl positif"
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae digwyddiadau fel hyn yn dangos i ddisgyblion beth sy'n bosibl pan fyddan nhw’n gweithio'n galed ac yn parhau i ymgysylltu â’u haddysg. Gall y profiadau hyn danio dyheadau sy'n para oes, ond maen nhw ond yn digwydd os yw’r disgyblion yn yr ysgol.
"Dyna pam mae ein hymgyrch Ddim Mewn, Colli Mas mor bwysig. Mae pob dydd yn cyfrif, a gallai colli'r ysgol olygu colli mas ar gyfleoedd sy'n dylanwadu ar y dyfodol."