Canmol Pobl Ifanc mewn Noson Wobrwyo

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025
Youth Awards

Daeth dros 200 o bobl at ei gilydd i ddathlu gwobrau cyntaf Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen i bobl ifanc a sefydliadau sy'n eu cefnogi.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf yn Theatr Congress, Cwmbrân, yn cydnabod mwy na 60 o bobl ifanc, rhwng 11 a 25 oed, am eu cyfraniadau i'w cymunedau, eu datblygiad personol a'u hymdrechion trwy wirfoddoli.

Cyflwynwyr y noson oedd Oliver Cooling a Jaea Watkins, y ddau yn 16 oed, ac roedd yn gyfle i arddangos doniau ac ymrwymiad pobl ifanc sy'n gysylltiedig â chlybiau ieuenctid, prosiectau ac ysgolion ar draws Torfaen.

Mewn chwe chategori, tynnwyd sylw at ehangder y cyflawniadau:

  • Gwobr Cyrhaeddiad Trawsnewid Amgylcheddol John Muir – 13 enillydd
  • Gwobr Cyfranogiad Ieuenctid – 23 enillydd
  • Gwobr Aelodau Hŷn – 7 enillydd
  • Gwobr Datblygiad Personol – 27 enillydd
  • Gwobr Rhagoriaeth mewn Partneriaeth – 2 enillydd
  • Gwobr Gwirfoddoli – 3 enillydd

Meddai Cory, Jones, 20 oed o Gwmbrân a enillodd Wobr Gwirfoddoli am gefnogi 'Youth Booth' - clwb ieuenctid i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol:

"Mae'n dda i helpu mewn clwb ieuenctid a chefnogi pobl ifanc eraill. Roeddwn i mor gyffrous i ennill y wobr ac allwn i ddim aros i ddweud wrth fy nheulu a fy ffrindiau."

Meddai Lilly Merrett, 14 oed o Gwmbrân a enillodd Wobr Datblygiad Personol am ei chyfraniadau cadarnhaol i'r clwb ieuenctid trwy fod yn garedig ac yn ofalgar bob tro: "Ges i lawer o hwyl heno, roedd y perfformiadau'n wych, ac rwy'n falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni."

Meddai XX, a enillodd Wobr John Muir – sy'n dathlu pobl ifanc sydd wedi ymrwymo i ofalu am fannau gwyllt, hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol a chofleidio dysgu yn yr awyr agored: “

Cyflwynwyd gwobrau gan y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y Cynghorydd Gaynor James o Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl a Lindsay Smith, Pennaeth Ysgol Gynradd Penygarn.

Meddai’r Cynghorydd Clark: "Mae ein pobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i'w hyrwyddo fel y gallant ffynnu, codi eu dyheadau a chyflawni eu potensial llawn.

"Trwy fuddsoddi mewn addysg a chyfleoedd, rydyn ni’n anelu at wella cyrhaeddiad a rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob unigolyn ifanc."

Cydnabuwyd Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl a Displaced People in Action hefyd am eu gwaith partneriaeth wrth gefnogi democratiaeth, agor clybiau ieuenctid newydd, a helpu i integreiddio pobl ifanc sydd ar yr ymylon.

Roedd yr adloniant yn cynnwys perfformiad o ‘My House’ o sioe gerdd Matilda the Musical gan Jemima Searle a dawnsio deinamig gan y grŵp dawnsio The Vibe Street Dance.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/11/2025 Nôl i’r Brig