Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025
Bydd cannoedd o goed a llwyni’n cael eu plannu’r gaeaf yma, fel rhan o fenter ar y cyd â Thai Cymunedol Bron Afon.
Bydd prosiect Branching Out yn plannu coed, gan gynnwys coed derw, ceirios, cerddinen, bedw a chyll, mewn ysgolion ac ar safleoedd Bron Afon, ochr yn ochr â drain gwynion, masarn a Chelyn i greu gwrychoedd newydd a helpu i ailsefydlu rhai newydd.
Cafodd yr ardaloedd eu clustnodi yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus yn 2022, gydag awgrymiadau gan drigolion lleol.
Mae dros 8,500 o goed a llwyni wedi eu plannu ers lansio’r prosiect dair blynedd yn ôl.
Ariennir y prosiect gan raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru ac mae’n cyd-fynd â rhaglen plannu coed y Cyngor.
Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae coed yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd – nid yn unig maen nhw’n rhoi bwyd a lloches i anifeiliaid, maen nhw hefyd yn gwella ansawdd yr aer ac yn lleihau tymheredd, sy’n gwneud ardaloedd yn fwy pleserus i fyw ynddynt
Dywedodd Mark Burchell, arbenigwr ar goed gyda Chymdeithas Gymunedol Bron Afon: “Rydym yn hynod o falch o fod yn rhan o brosiect sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth I'n cymunedau a‘n hamgylchedd lleol.
“Mae plannu dros 8,500 o goed a llwyni mewn tair blynedd yn orchest anhygoel, and mae’n ysbrydoledig gweld effaith cadarnhaol y gwaith yma — nid dim ond i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth, ond i'n cymunedau a lles pobl leol hefyd.”
Cewch ragor o wybodaeth trwy ddilyn Partneriaeth Natur Leol Blaenau Gwent a Thorfaen ar y cyfryngau cymdeithasol.