Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Mae menter sy'n anelu at ddod â phobl sengl hŷn at ei gilydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i leihau unigrwydd ac ynysu yn y gymuned.
Mae Cwmni Budd Cymunedol Forgehammer CIC, sef hwb sydd wedi bodoli ers blynyddoedd yng Nghwmbrân, wedi lansio Bingo Cyfeillio i helpu trigolion i feithrin cysylltiadau cymdeithasol a chyfeillgarwch.
Daeth y syniad ar ôl i'r grŵp sylwi bod nifer cynyddol o bobl yn byw ar eu pennau eu hunain a ddim yn mynd i unrhyw glybiau lleol.
Cynhaliwyd y sesiwn Bingo Cyfeillio gyntaf ym mis Medi a daeth mwy na 30 o drigolion.
Yn dilyn ei lwyddiant, mae’r bingo nawr yn nodwedd reolaidd ar galendr y ganolfan, ac yn digwydd ar yr ail a'r pedwerydd dydd Iau o bob mis, rhwng 1pm a 3pm. Cynhelir y sesiwn nesaf ddydd Iau 18 Rhagfyr.
Am £4, gall trigolion fwynhau bingo, cinio ysgafn, a chymaint o de a choffi ag y gallan nhw ei yfed – a’r cyfan wedi'i weini gan wirfoddolwyr ymroddgar y ganolfan.
Meddai Alice Bosley, sy'n rhedeg Forgehammer CIC gyda'i phartner Leighton: "Rydyn ni’n gweithio'n galed i frwydro yn erbyn unigrwydd ac ynysu ymhlith holl aelodau ein cymuned. Ar ôl gweld llwyddiant ein te prynhawn, sylweddolon ni mai dyma oedd yr unig ddigwyddiad cymdeithasol yr oedd rhai’n mynd iddo mewn mis, felly fe wnaethon ni gyflwyno Bingo Cyfeillio i roi cyfle arall iddyn nhw i feithrin cysylltiadau."
Ychwanegodd Carol Stevens, gwirfoddolwr sy’n dod i’r bingo’n rheolaidd: "Rwy'n hapus i helpu Alice a Leighton oherwydd eu bod nhw'n bobl mor hyfryd. Mae'r grŵp bingo yn gwmni gwych, ac rydych chi bob amser yn teimlo bod croeso yno i chi."
Mae Forgehammer CIC wedi cael cefnogaeth gan dîm Meithrin Gallu Cyngor Torfaen, gan gynnwys grant Cydnerthedd Cymunedol yn 2023, a ariannodd gegin a system foeler newydd i gadw'r ganolfan i redeg.
Ochr yn ochr â’r bingo, mae'r grŵp yn cynnal clwb crib, sesiynau crefft, a the prynhawn am gost isel, yn ogystal ag 'Ystafell Fyw Gyhoeddus' bob dydd Gwener o 10:30am, sy’n cynnig lle cynnes, croesawgar i bobl gymdeithasu a chael cefnogaeth.
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Mae dull gweithredu CIC Forgehammer yn enghraifft wych o weithredu dan arweiniad y gymuned, gan adnabod anghenion lleol ac ymateb gyda chynhesrwydd, creadigrwydd a gofal. Mae mentrau fel y rhain yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig a chydnerth."
Rhagor o wybodaeth am weithgareddau Forgehammer CIC.
Anogir trigolion sy'n mynychu neu'n rhedeg grwpiau cymunedol i ymuno â'r sgwrs am Fargen Torfaen.
Mae'r Fargen yn gontract cymdeithasol newydd rhwng y Cyngor, trigolion a phartneriaid, wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth, rhannu cyfrifoldeb a gweithredu ar y cyd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella bywydau.
Am ragor o wybodaeth am Fargen Torfaen, ewch i wefan Cymryd Rhan y Cyngor.