Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025
Mae digwyddiad wedi'i gynnal i ddod â grwpiau cymunedol, sefydliadau a gwirfoddolwyr sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur yn Nhorfaen ynghyd.
Daeth chwe deg o bobl o dros 20 o wahanol sefydliadau i’r Cyfarfod Hinsawdd a Natur yn The Settlement, Pont-y-pŵl, heddiw, a drefnwyd gan dîm amgylchedd, hinsawdd a thimau cynaliadwyedd y cyngor.
Roedd hefyd yn nodi lansiad swyddogol menter Planed Iach, Pobl Iach y cyngor, sy'n rhaglen dair blynedd gwerth £800,000 gyda'r nod o gael gwell dealltwriaeth o natur leol a’i gwella.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae'n Wythnos Hinsawdd Cymru, sy'n gyfle gwych i ddathlu'r camau sy'n cael eu cymryd gan gymunedau i ymateb i hinsawdd sy'n newid a'r bygythiad i'n hamgylchedd naturiol.
"Mae hefyd yn 10 mlynedd ers Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol arloesol Cymru, sy'n ystyried effaith hirdymor penderfyniadau.
"Ers 2020, mae'r cyngor wedi lleihau allyriadau carbon o'i adeiladau 40 y cant, wedi lleihau allyriadau fflyd ac offer 33 y cant, ac wedi cynyddu'n sylweddol faint o dir rydyn ni'n ei reoli ar gyfer natur.
"Uchelgais Llywodraeth Cymru yw cael sector cyhoeddus carbon sero net erbyn 2030, ac i Gymru ddod yn garbon sero-net erbyn 2050. Mae rhywfaint o ffordd i fynd o hyd, ond rydyn ni eisiau i Dorfaen chwarae ei rhan.
"Dyma pam mae digwyddiadau fel heddiw, sy'n galluogi grwpiau a sefydliadau i rannu
syniadau ac arfer gorau a chydweithio ar atebion ar y cyd, mor bwysig. Rydym yn elwa o ysbryd cymunedol cryf, ac mae yna lawer o grwpiau ac unigolion sydd eisiau amddiffyn ein dyffryn hyfryd ac adnoddau ein planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwyf am ddiolch iddyn nhw i gyd."
Roedd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yr elusen ailddefnyddio Wastesavers, a Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, sy'n cefnogi mentrau cymdeithasol a arweinir gan y gymuned.
Meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: "Mae'r hyn rydw i wedi'i weld yn digwydd yn Nhorfaen i fynd i'r afael â'r argyfwng natur ac i adfer ein hamgylchedd naturiol, yn rhagorol - rhai o'r enghreifftiau gorau o brosiectau i’w gweld ledled Cymru."
Meddai Alan Harry, o ymddiriedolaeth elusennol Wastesavers: "Mae wedi bod yn fore diddorol dros ben, yn rhannu arfer da gydag asiantaethau ac yn ymgysylltu â'r gymuned a'u meddyliau a'u syniadau."
Mae menter Pobl Iach, Planed Iach y cyngor wedi derbyn cyfanswm o £808,315 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, fel rhan o raglen newydd Trefi a Dinasoedd Natur.
Roedd yn un o ddim ond dau brosiect i dderbyn cyllid. Dysgwch fwy, gan gynnwys sut y gallwch gymryd rhan yn y prosiect, drwy ymweld â cymrydrhan.torfaen.gov.uk
Dysgwch sut y gallwch helpu Torfaen i ddod â sero-garbon net erbyn 2050 drwy ymweld â gwefan y cyngor.