Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 27 Chwefror 2026
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow wedi cyhoeddi rhaglen lawn o weithgareddau i ddathlu Sul y Mamau a'r Pasg.
Ddydd Sul, Mawrth 15, bydd pob mam yn gallu ymweld â'r fferm am ddim fel rhan o ddathliadau’r fferm ar gyfer Sul y Mamau.
Bydd hwyl y Pasg yn cychwyn gyda phenwythnos lansio arbennig ar 28 a 29 Mawrth, yn cynnwys adloniant byw, tryciau bwyd, crefftau a llu o weithgareddau i'r teulu.
Bydd arddangosfeydd hebogyddiaeth newydd hefyd yn digwydd ar ddyddiadau dethol trwy gydol y gwanwyn.
Ac wrth gwrs, bydd ymwelwyr yn gallu cwrdd ag anifeiliaid newydd y fferm, gan gynnwys ŵyn, cywion a moch bach!
Dywedodd Jac Griffiths, Rheolwr Cyffredinol Fferm Gymunedol Greenmeadow: "Rydym yn llawn cyffro o wynebu tymhorau’r gwanwyn a'r haf a gweld y fferm yn bownsio'n ôl yn dilyn yr ailddatblygu.
"Mae wedi bod yn daith anhygoel i gyrraedd y pwynt hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu anifeiliaid newydd a chyfarwydd yn ôl i'r padogau wrth i'r safle barhau i ddod yn fyw eto.
"Rydym wedi cynllunio rhai digwyddiadau gwych ar gyfer yr haf, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i brofi'r fferm yn ystod y gwanwyn a'r haf."
Yr wythnos hon, dychwelodd sesiynau plant bach i'r fferm.
Mae'r sesiynau, wedi'u cynnwys yn y pris mynediad ac yn cynnwys Singalong with Liz, gweithgaredd cerddoriaeth a symudiad bywiog a rhyngweithiol sy'n cyflwyno dysgu cynnar trwy gân, dawns a chwarae.
Ym mis Mawrth, bydd y sesiynau 30 munud yn digwydd am 1pm ddydd Gwener 6, dydd Mawrth 10, dydd Mercher 18 a dydd Mawrth 24.
Mae'r bwyty poblogaidd Bwrdd y Ffermwr hefyd yn edrych ymlaen at y gwanwyn gyda noson Llymaid a Pheintio newydd ddydd Gwener 13 Mawrth, rhwng 6.30pm ac 8.30pm.
I gael manylion llawn am yr holl atyniadau a digwyddiadau, a sut i archebu, ewch i’r wefan: