Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Tachwedd 2025
Mae disgwyl i waith i adfer dwy ardal o fawndiroedd ddechrau ym mis Rhagfyr, diolch i £71,000 o’r Rhaglen Gweithredu Mawndiroedd Cenedlaethol.
Mae cynefinoedd mawndir yn bwysig ar gyfer bioamrywiaeth a storio carbon, yn ogystal â rheolaeth llifogydd oherwydd eu bod yn casglu ac yn dal llawer o ddŵr sydd wedyn yn cael ei ryddhau’n raddol dros amser wedyn.
Serch hynny, gall mawndir ddirywio, a gall hyn leihau ei effeithlonrwydd o ran gwneud y pethau yma.
Mae gwaith yn cael ei wneud i asesu dyfnder, lefelau dwr a phwyntiau traenio ym Mynydd Garn y Fawr, sy’n rhan o ADdGA y Blorenge, ym Mlaenafon a Mynydd Garnclochdy, uwchben Cwmafon. Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei ddefnyddio i gynllunio gwaith adfer mawndir.
Y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae hwn yn gyhoeddiad gwych yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru.
“Bydd cynyddu maint y mawndir yn yr ardaloedd yma’n cynyddu faint o ddŵr maen nhw’n gallu dal, ac yn helpu i warchod cymunedau islaw rhag llifogydd.
"Bydd buddion sylweddol i fioamrywiaeth leol hefyd, yn enwedig y planhigion, amffibiaid, adar, gwenyn a gloÿnnod byw sy’n dibynnu ar wlybtiroedd i oroesi. Er enghraifft, roedd cornchwiglod yn gyffredin ar un adeg yn ucheldiroedd Torfaen, ond maen nhw nawr mewn perygl o ddifodiant."
Yn ystod y prosiect, bydd cyfleoedd i bobl gymryd rhan a dysgu sgiliau a helpu i gasglu gwybodaeth a fydd yn llunio gweithgareddau adfer, gan gynnwys ffotograffiaeth pwynt sefydlog i fonitro newidiadau mewn cynefinoedd dros amser, monitro tyfiant a hydrolegol.
Disgwylir i’r gwaith ddigwydd rhwng Rhagfyr a Mawrth.
Os hoffech wybod mwy am y prosiect, neu os ydych am gymryd rhan, danfonwch e-bost at veronika.brannovic@torfaen.gov.uk neu james.bower@torfaen.gov.uk
Bydd y gwaith yn cyfrannu at ymrwymiad Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur a Chynllun Sirol y Cyngor i wella’r amgylchedd lleol.