Ymestyn murlun yn ddraig

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 23 Chwefror 2026
Screenshot 2026-02-23 155820

Mae murlun newydd o ddraig a ddadorchuddiwyd yng nghanol tref Pont-y-pŵl fis diwethaf yn mynd i gael ei ymestyn, diolch i dîm o arlunwyr ifainc.

Crëwyd y murlun trawiadol sy’n 9m wrth 3m ac sy’n dathlu gorffennol diwydiannol y dref, gan yr artist Andy O'Rourke, wrth y fynedfa i faes parcio Glan-yr-afon.

Bydd cyfres o 12 panel, sydd hefyd wedi cael eu peintio gan Andy a’u dylunio gan bobl ifanc, yn cael eu gosod ar hyd y rhodfa, rhwng y fynedfa a’r maes parcio, o’r wythnos nesaf.

Dadorchuddiwyd y 6 phanel cyntaf, a ddyluniwyd gan aelodau o Gyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl yr wythnos ddiwethaf yn Amgueddfa Pont-y-pŵl.

Meddai Chenile Fox, a ddyluniodd un o’r paneli yn rhan o brosiect gydag ArtREGEN Pont-y-pŵl: "Roedd yn brofiad mor ddifyr, yn enwedig gan ei fod yn dod â phobl ifanc a chenedlaethau hŷn Pont-y-pŵl at ei gilydd.

"Dangosodd sut mae pobl ifanc yn aml yn cael eu camddeall - mae'r rhan fwyaf ohonon ni eisiau cymryd rhan a chael effaith gadarnhaol.

“Cawson ni’r rhyddid i fod yn greadigol. Buaswn i wrth fy modd i gael gwneud rhywbeth fel hyn eto."

Roedd y prosiect celf yn dilyn argymhellion gan bobl ifanc a ddaeth i ŵyl gefeillio 2025 y llynedd a oedd yn cynnwys helpu i wneud y dref yn fwy deniadol yn weledol.

Meddai Helen Cooling, o wasanaeth ieuenctid Cyngor Torfaen, sy’n cefnogi’r Cyngor Ieuenctid: "Rwy'n falch iawn o gefnogi'r Cyngor Ieuenctid a'i ymdrechion parhaus i hyrwyddo eu tref, Pont-y-pŵl.

“Mae'n enghraifft wych o bartneriaethau, pobl ifanc yn cael llais ac yn gwneud gwahaniaeth. Byddaf yn parhau i weithio gyda thasglu Pont-y-pŵl i ddatblygu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc trwy'r celfyddydau."

Mae chwe phanel arall yn cael eu dylunio gan ddisgyblion o’r ganolfan addysg i Deithwyr Sipsiwn yn Ysgol Gorllewin Mynwy.

Llwyddwyd i sicrhau cyllid ar gyfer y fenter gan ArtREGEN, a gomisiynodd murlun y ddraig hefyd.

Fe fu pobl ifanc yn cymryd rhan mewn dwy sesiwn greadigol a gynhaliwyd yn Nhrefddyn, Cold Barn Farm lle fuon nhw’n defnyddio goleuadau a chamera arbennig i greu'r gwaith celf.

Mae ArtREGEN a Chyngor Ieuenctid Pont-y-pŵl yn rhan o Dasglu Cymunedol Pont-y-pŵl sy'n gweithio i wella canol tref Pont-y-pŵl, gyda chefnogaeth y Cyngor.

Mae’n un o’r ffyrdd y mae’r Cyngor yn anelu at weithio’n agosach gyda chymunedau yn rhan o Fargen newydd Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/02/2026 Nôl i’r Brig