Wedi ei bostio ar Dydd Iau 5 Chwefror 2026
Mae cynlluniau ar gyfer caffi newydd wrth ochr y parc, a gwelliannau i faes parcio yng nghanol y dref ym Mhont-y-pŵl, wedi'u cyflwyno am ganiatâd cynllunio.
Mae'r dyluniadau diwygiedig yn rhan o ddatblygiad Hwb Diwylliannol a Chaffi gwerth miliynau o bunnau i adfywio'r porth deheuol i Ganol Tref Pont-y-pŵl.
Mae'r dyluniadau'n cynnwys estyniad newydd a phaneli solar ar gyfer y to a chynlluniau i adfer y ffynnon yn y Gerddi Eidalaidd gerllaw. Bydd y maes parcio yn cynnwys cladin allanol newydd, mannau parcio ar gyfer yr anabl a mannau gwefru cerbydau trydan.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae hwn yn brosiect cymhleth, sydd wedi gofyn am waith rheoli prosiect deinamig yn erbyn cefndir economaidd heriol.
"Rydyn ni wedi gweld y gwaith yn dechrau dwyn ffrwyth yn barod yng nghanol tref Pont-y-pŵl – rydyn ni’n buddsoddi mewn gwaith i wella adeiladau allweddol, wedi croesawu masnachwyr newydd i Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl ac yn gweithio gyda busnesau newydd sy'n ystyried symud i ganol y dref, gyda chefnogaeth cynnig ar gyfer cynllun rheoli cyrchfan i gynyddu nifer yr ymwelwyr.
"Bydd yr Hwb Diwylliannol a'r Caffi ym Mhont-y-pŵl yn cefnogi'r gwaith adfywio hwn ymhellach trwy ddenu ymwelwyr i'r dref o'r de, gan gynnwys y miloedd o bobl sy'n ymweld â Pharc Pont-y-pŵl bob blwyddyn."
Bydd y dyluniadau ar gyfer y caffi wrth ochr y parc yn Hanbury Road a gwelliannau i Glantorfaen Road yn cael eu hystyried gan adran Cynllunio'r Cyngor.
Os bydd y cynlluniau’n cael eu cymeradwyo, yna ar sail y cyfnod penderfynu arferol o 12 wythnos, disgwylir i'r gwaith adeiladu ar gyfer y ddau gynllun ddechrau ddiwedd yr haf neu ddechrau'r hydref.
Mae trydydd cam i drawsnewid Eglwys Iago Sant, gyferbyn â'r caffi wrth ymyl y parc, yn fwyty a sinema wib, hefyd yn cael ei symud ymlaen gan ddatblygwr preifat.
Disgwylir i’r prosiectau greu 36 o swyddi newydd, ac maent wedi cael eu croesawu gan Dasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, a sefydlwyd y llynedd.
Meddai’r Cadeirydd, Dyl Delaney: "Rydyn ni’n llwyr gefnogi’r cynnig ar gyfer y prosiect Ffyniant Bro i Dorfaen. Mae’n rhaglen sydd wedi cael ei hymchwilio'n llawn ac mae’n anelu at greu swyddi a rhoi hwb i economi'r dref a dyma’n union beth sydd ei angen ar ein tref.
"Bydd y prosiect yn helpu gyda’r gwaith adfywio sydd wedi’i gynllunio ar gyfer Canol Tref Pont-y-pŵl. Y ffocws cychwynnol ar greu Ardal Ddiwylliannol a Chaffi yw'r cam mawr cyntaf mewn ymdrechion i ddenu ein cymunedau ac ymwelwyr yn ôl i'n tref ac mae’r Tasglu’n llwyr gefnogol."
Cafodd yr Hwb Diwylliannol a'r Caffi ym Mhont-y-pŵl £7.6m gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn 2023, a grant Balchder yn ei Bro o £1.5m yn 2025. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo £1.9m mewn arian cyfatebol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cynlluniau.
Ceisiadau cynllunio: https://planningonline.torfaen.gov.uk/online-applications/