Buddsoddiad newydd yng nghanol y dref

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 7 Hydref 2025
img-2973_crop

Cyhoeddwyd cyllid i drawsnewid Sgwâr Gwent, yng Nghwmbrân, yn ofod cyhoeddus amlbwrpas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddyrannu o leiaf £1.25m tuag at y prosiect gwerth £2.5m drwy ei rhaglen Trawsnewid Trefi.

Daeth y newyddion wrth i siop fawr a champfa 24-awr newydd JD Sports gael eu hagor yn swyddogol yng nghanol tref Cwmbrân heddiw, diolch i fuddsoddiad Trawsnewid Trefi a chyllid gan M Cwmbrân, sy'n berchen ar ganolfan siopa Cwmbrân Shopping.

Meddai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant: "Roedd yn wych cael bod yn agoriad siop a champfa newydd JD Sports yng Nghwmbrân heddiw a gweld â fy llygaid fy hun sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn trawsnewid canol ein trefi a’n dinasoedd.

"Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yng nghanol tref Cwmbrân drwy ein hymrwymiad i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r cam nesaf yn adfywiad Sgwâr Gwent, gan adeiladu ar y cynnydd rhagorol sydd wedi cael ei wneud yn barod.

"Mae Trawsnewid Trefi yn fwy na gwelliannau ffisegol yn unig – mae'n golygu creu cymunedau cynaliadwy, ffyniannus y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt ac ymweld â nhw. Mae adfywio Sgwâr Gwent yn enghraifft berffaith o sut y gall buddsoddiad wedi'i dargedu adfywio canol ein trefi a sicrhau manteision parhaol i bobl leol."

Meddai Adam Martin, Cyfarwyddwr M Cwmbrân: "Rydyn ni wrth ein boddau i weld JD Sports a JD Gyms yn agor fel busnes blaenllaw ac yn masnachu yng Nghwmbrân. Er mwyn adfywio canol trefi mae angen partneriaid â meddwl agored a chydweithio.

"Rydyn ni’n wirioneddol ddiolchgar am y ffydd y mae JD Group wedi ei dangos yng nghanol y dref a'r gefnogaeth gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus yn Nhorfaen a Llywodraeth Cymru."

Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r gampfa a'r siop JD Sports newydd a’r gwaith ailddatblygu arfaethedig ar Sgwâr Gwent a Thŷ Gwent yn elfennau allweddol yng Nghynllun Creu Lleoedd y Cyngor ar gyfer Cwmbrân.

"Maen nhw'n dangos sut y gallwn sicrhau buddsoddiad i greu canol trefi bywiog a deniadol trwy gydweithio â phartneriaid fel Llywodraeth Cymru, mudiadau’r trydydd sector a busnesau lleol."

Agorodd siop a champfa newydd JD Sports ym mis Awst yn rhan o waith adnewyddu gwerth £4.36m ar hen adeilad House of Fraser, sy'n edrych allan dros Sgwâr Gwent.

Mae'r gampfa’n cynnwys dewis eang o gyfarpar cardio a chryfder, ardal bwysau rhydd fawr, parth arbennig ar gyfer y gliwts, trac sled, a man hyfforddi Eleiko.

Disgwylir i’r cynlluniau i ailddatblygu Sgwâr Gwent gynnwys seddi newydd, coed ac ardal fwyd a diod newydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio a chyllid ychwanegol.

Os cânt eu cymeradwyo, y gobaith yw y bydd y gwaith yn dechrau yng ngwanwyn 2027.

Mae'n rhan o brosiect ehangach a fydd yn gweld Tŷ Gwent yn cael ei droi'n fflatiau tai cymdeithasol a chyfleusterau cymunedol ac iechyd newydd.

Mae'r buddsoddiad yn dilyn grantiau Trawsnewid Trefi gwerth £244,711 i adnewyddu 95/95A Broad Street, Blaenafon yn 2023 a £236,733 i adnewyddu'r hen Scrum Half ym Mhont-y-pŵl yn 2024.

Mae mwy na £500,000 wedi cael ei glustnodi ar gyfer prosiectau adfywio yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl eleni, gyda £450,000 arall ar gyfer prosiectau ym Mlaenafon a Phont-y-pŵl y flwyddyn nesaf.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/10/2025 Nôl i’r Brig