Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025
Cymerodd dros 150 o bobl ifanc ran mewn dewis eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau dros hanner tymor mis Hydref, diolch i Wasanaeth Ieuenctid Torfaen.
O glybiau ieuenctid ar thema Calan Gaeaf i sesiynau coginio creadigol a diwrnod gweithgareddau ieuenctid yn Nhŷ Ashley, yng Nghwmbrân, roedd y rhaglen wedi'i hanelu at bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed.
Cafodd 39 o bobl ifanc a oedd wedi cofrestru trwy glybiau gwahanol gyfle hefyd i fynd ar deithiau i Chessington World of Adventures a Ninja Warrior yng Nghaerdydd.
Meddai Keira, sy’n 14 oed ac sy’n mynychu Clwb Ieuenctid newydd Tal-y-waun: 'Mae’r clwb ieuenctid yn anhygoel, dyma'r peth mwyaf cymdeithasol rydw i wedi'i wneud yn fy mywyd, ac uchafbwynt go iawn yw cwrdd â phobl newydd."
Yn ystod yr wythnos, cynigiwyd gweithgareddau hefyd trwy Brosiect Ailsefydlu Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, sy'n cefnogi pobl ifanc sydd wedi ffoi o'u gwlad enedigol i gael lloches a dechrau newydd yn y DU.
Lansiwyd y cynllun ailsefydlu ym mis Awst, ac mae ar agor i bobl ifanc sy’n 11 oed neu’n hŷn, a'u teuluoedd.
Mae wedi helpu 12 teulu i ailsefydlu yn y Fwrdeistref hyd yma – diolch i gefnogaeth gan y Gwasanaeth Ieuenctid, sy'n rhoi mynediad i glybiau ieuenctid, rhaglenni gwyliau, gweithgareddau adeiladu cymunedau a chymorth unigol wedi’i deilwra.
Meddai Anna, sy’n 18 oed, a symudodd o Wcráin: "Rydw i wedi caru popeth ac yn mwynhau gwneud ffrindiau newydd."
Yn rhan o'r cynllun, gall teuluoedd fynd i gyfarfodydd wythnosol yng Nghanolfan Ieuenctid Tŷ Ashley, yng Nghwmbrân, a chael cefnogaeth gan y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST), sef elusen sy'n helpu pobl ifanc o gymunedau ethnig amrywiol a allai fod yn ynysig.
Meddai Lina El Idrysy, o Displaced People in Action - Elusen sy'n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ailsefydlu yng Nghymru, meddai: "Mae'r gweithgareddau hyn yn fwy na dim ond teithiau hamdden; roedden nhw'n cynnig lle diogel a chroesawgar i bobl ifanc i fagu cyfeillgarwch, archwilio amgylcheddau newydd, a chael ymdeimlad o berthyn."
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae creadigrwydd ac angerdd y bobl ifanc sy'n llunio siâp eu gwasanaeth ieuenctid eu hunain, a'r gweithwyr ieuenctid anhygoel sy'n eu cefnogi ar bob cam o'r daith, yn creu argraff arnaf dro ar ôl tro.
"Roedd y rhaglen ar gyfer y gwyliau hanner tymor hyn yn enghraifft wych arall o ba mor gynhwysol, amrywiol a difyr y gall gweithgareddau sy’n cael eu harwain gan ieuenctid fod."
Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid nawr yn paratoi at ei noson wobrwyo nos Fawrth 11 Tachwedd, i ddathlu cyflawniadau a chyfraniadau pobl ifanc ar draws y Fwrdeistref.
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau sydd ar droed gyda Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, cysylltwch â: david.williams@torfaen.gov.uk
Ar gyfer y prosiect ailsefydlu, cysylltwch â Carla.LouiseO'Brian@torfaen.gov.uk neu am ragor o wybodaeth am EYST, ewch i https://www.eyst.org.uk