Apêl Siôn Corn Torfaen yn agor

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 3 Tachwedd 2025

Mae Apêl Siôn Corn Cyngor Torfaen yn dychwelyd i ddod â hwyl y Nadolig i blant a phobl ifanc lleol a fyddai fel arall yn mynd hebddi yn ystod tymor yr ŵyl.

Bob blwyddyn, mae'r apêl yn cefnogi teuluoedd a allai fod yn wynebu caledi ariannol, trwy gasglu rhoddion o anrhegion newydd, heb eu lapio, i'r rhai rhwng 0 a 21 oed.

Mae'r apêl yn cael ei chynnal gan dimau gwasanaethau cymdeithasol 15+ a gwasanaethau plant y cyngor a bydd yn digwydd rhwng 3 Tachwedd a 4 Rhagfyr.

Anogir trigolion sy'n dymuno cyfrannu i ffonio'r llinell ffôn berthnasol i dderbyn awgrymiadau ar gyfer anrhegion sy'n briodol o ran oedran:

  • I blant 0–14 oed, ffoniwch 01495 742616 
  • I bobl ifanc 15–21 oed, ffoniwch 01633 647539 

Mae llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 9:00am – 4:00pm, a gall anrhegion gael eu gadael yn y mannau penodedig canlynol:

  • TYPSS, Tŷ Pontsychan, 12 Old Road, NP4 7BA Dydd Mawrth: 9:00am – 5:00pm
  • Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Gwent Square, NP44 1XQ Dydd Llun a Dydd Mawrth: 9:00am – 5:30pm Dydd Iau: 8:45am – 7:00pm Dydd Gwener: 8:45am – 6:00pm Dydd Sadwrn: 8:45am – 1:00pm
  • Swyddfeydd Rheoli Canolfan Cwmbrân, Y Dderbynfa, Llawr 1, 17–22 The Parade (uwchben cigydd Douglas Willis) Dydd Mercher: 10:00am – 2:00pm
  • Y Ganolfan Ddinesig Centre, Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN Dydd Mawrth: 10:00am – 2:30pm
  • Circulate Blaenavon, Pont-y-pŵl, NP4 9RL Dydd Llun i Ddydd Gwener: 9:00am – 4:30pm
  • Co-star, Neuadd Gymunedol y Pishyn Tair, Cwmbrân, NP44 4SX Dydd Llun: 10:00am – 3:00pm
  • Marchnad Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl, NP4 6JW Dydd Llun: 8:00am – 2:00pm Dydd Mawrth i Ddydd Gwener: 8:00am – 5:00pm Dydd Sadwrn: 8:00am – 3:00pm

Y llynedd rhoddwyd mwy na 1,000 o roddion i dros 300 o blant a phobl ifanc a gefnogwyd gan y gwasanaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae Apêl Siôn Corn yn ymwneud â mwy nag anrhegion – mae'n ymwneud â dangos gofal ac ysbryd cymunedol i deuluoedd sy'n wynebu cyfnodau anodd.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sy'n parhau i gefnogi'r apêl hon a gwneud y Nadolig yn fwy disglair i blant a phobl ifanc ledled Torfaen."
Diwygiwyd Diwethaf: 03/11/2025 Nôl i’r Brig