Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mai 2025
Mae mwy na 50 o ofalwyr maeth o bob rhan o Dorfaen wedi cael eu cydnabod am eu hymrwymiad eithriadol i gefnogi plant a phobl ifanc mewn gofal.
Cynhaliwyd y dathliad fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth - 12 - 25 Mai, ymgyrch ledled y DU sy'n tynnu sylw at y rôl hanfodol teuluoedd maeth o ddarparu cartrefi diogel a meithringar i blant sy'n agored i niwed.
I nodi'r achlysur, cynhaliodd tîm Maethu Cymru Cyngor Torfaen ddigwyddiad gwerthfawrogi arbennig yng Ngwesty'r Parkway yng Nghwmbrân, gan ddod â gofalwyr maeth at ei gilydd ar gyfer seremoni wobrwyo a chinio arbennig.
Ymhlith y rhai a ddathlwyd roedd Sharon-Ann, a dderbyniodd wobr cydnabyddiaeth arbennig am ofalu am bobl ifanc ag anghenion cymhleth trwy gyfnodau o argyfwng a thrawma.
Dywedodd Sharon-Ann, sydd wedi bod yn maethu ers 12 mlynedd ac a ddaeth yn Ofalwr Maeth Therapiwtig Mhyst yn ddiweddar:
"Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod wedi cael fy enwebu. Roedd yn hyfryd dod ynghyd gyda gofalwyr eraill a chael cydnabyddiaeth am yr amser a'r gofal rydyn ni wedi rhoi i blant pan fydd ei angen fwyaf.
"Er ei fod yn heriol, mae'n wrth chweil ac mae gweld y canlyniadau cadarnhaol yn y plant yn ein gyrru ni fel gofalwyr maeth. Maen nhw'n dod yn rhan o'n teulu."
Cyflwynwyd dwy wobr gydnabyddiaeth arbennig arall i'r gofalwyr teuluol Michael a Siân o Gwmbrân, ac Emma o Bont-y-pŵl sydd wedi gofalu am 16 o blant.
Dywedodd Emma: "Cefais i fy synnu'n llwyr o dderbyn y wobr cydnabyddiaeth arbennig, ond rwy’n ddiolchgar iawn. Mae'n deimlad gwych gwybod bod yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn cael ei werthfawrogi pan fyddwn yn croesawu person ifanc i'n cartref."
I’r gofalwyr nad oeddent yn gallu bod yno, aeth tîm Maethu Cymru’n bersonol i gyflwyno tusw o flodau i'w cartrefi, tra bod y rhai sy'n byw ymhellach i ffwrdd wedi derbyn talebau rhodd.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:
"Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth ddiwyro a'r effaith gadarnhaol y mae gofalwyr maeth yn ei chael ar fywydau ein plant mwyaf bregus."
"Fel awdurdod lleol, rydym yn ymroddedig at ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc mewn gofal, felly trwy faethu gyda ni, fel rhan o Faethu Cymru Torfaen, rydych chi'n sicrhau bod plant yn cadw mewn cysylltiad â'u cymuned, eu teuluoedd a'u ffrindiau."
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth ym mywyd plentyn drwy ddod yn ofalwr maeth awdurdod lleol, ffoniwch 01495 766669 neu ewch i wefan Maethu Cymru Torfaen.