Canmol disgyblion am ymddygiad rhagorol

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mai 2025
Untitled design (25)

Mae disgyblion wedi cael eu canmol am eu hymddygiad rhagorol yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan yr arolygiaeth ysgolion, tynnwyd sylw at ymddygiad disgyblion Ysgol Gynradd Gatholig Padre Pio, ym Mhont-y-pŵl, tuag at ei gilydd a'r staff.

Dywedodd yr arolygwyr: "Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd croesawgar a meithringar  lle mae disgyblion a staff yn teimlo'n ddiogel, ac yn cael eu gwerthfawrogi.

"Mae staff yn datblygu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda disgyblion. Mae hyn yn creu awyrgylch o barch i'r ddwy ochr lle mae disgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu.

"Mae staff ar draws yr ysgol yn hyrwyddo ymddygiad da ac yn defnyddio canmoliaeth gadarnhaol yn aml. O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn gwrtais i oedolion ac i'w gilydd, ac mae eu hymddygiad yn rhagorol. "

Fe wnaeth yr adroddiad hefyd gydnabod cynnydd disgyblion mewn llythrennedd, mathemateg a sgiliau digidol, yn ogystal â pherthnasoedd yr ysgol â theuluoedd, sy'n sicrhau bod rhieni’n deall sut mae eu plentyn yn datblygu a beth y gallan nhw ei wneud i'w cefnogi.

Dywedodd yr adroddiad: "Mae arweinwyr a staff yn datblygu cysylltiadau cadarnhaol iawn â theuluoedd. Maen nhw’n darparu cyfleoedd gwerthfawr i rieni neu ofalwyr ymweld â'r ysgol, er enghraifft yn ystod diwrnodau 'book look', lle gall rhieni edrych ar waith eu plentyn neu drwy fynychu gwasanaethau dosbarth rheolaidd.

"Mae arweinwyr yn trefnu digwyddiadau pontio pwrpasol i rieni sy'n newydd i'r ysgol. Mae'r rhain yn galluogi'r rhan fwyaf o ddisgyblion i gael dechrau llwyddiannus i fywyd ysgol.

"Maen nhw'n cyfathrebu'n rheolaidd â'r cartref ac yn sicrhau eu bod yn ymateb yn gyflym ac yn bwrpasol i unrhyw bryderon neu awgrymiadau ar gyfer gwella."

Dywedodd y pennaeth Paul Welsh: "Mae'r adroddiad yn dyst i waith caled, ymroddiad a chydweithrediad cymuned gyfan ein hysgol - disgyblion, staff, llywodraethwyr, a rhieni a gofalwyr.

"Rydym yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i welliant parhaus i sicrhau ein bod yn darparu'r amgylchedd dysgu gorau posibl i'n holl ddisgyblion gael ffynnu."

Rhoddodd yr arolygwyr argymhelliad y byddai'r ysgol yn gwneud mwy i ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol disgyblion hŷn, gwella sgiliau Cymraeg disgyblion a chryfhau rôl llywodraethwyr wrth hunanwerthuso a chynllunio gwelliant i sicrhau eu bod yn darparu her addas i'r ysgol.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/05/2025 Nôl i’r Brig