Cymorth iaith i ddisgyblion cyfrwng Cymraeg

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mai 2025
Carreg Lam pupils

Mae disgyblion mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn derbyn cymorth iaith ychwanegol y tymor hwn i baratoi ar gyfer yr ysgol uwchradd.

Mae rhaglen wedi cael ei datblygu gan staff yn uned drochi Cymraeg Carreg Lam, ym Mhont-y-pŵl, i helpu disgyblion ym Mlynyddoedd 5 a 6 i ddatblygu'r sgiliau a'r hyder y mae eu hangen i ffynnu mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg.

Mae staff o ganolfan cymorth Cymraeg y cyngor yn cynnal rhaglen pythefnos o hyd Camu i'r Uwchradd, ar gyfer ysgolion ym mhob rhan o Dorfaen.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar gynyddu hyfedredd mewn siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu drwy weithgareddau fel coginio, gemau a hwyl, yn ogystal â datblygu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig gref.

Dywedodd y Dr. Matthew Williamson-Dicken, Pennaeth Ysgol Gynradd Panteg a Charreg Lam: "Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n hyderus ac yn barod wrth gamu i addysg uwchradd. Trwy gyfuno dysgu iaith dwys â phrofiadau diwylliannol, rydym nid yn unig yn datblygu sgiliau ieithyddol ond hefyd yn meithrin balchder a pherthyn i'r gymuned Gymreig."

Mae Camu i'r Uwchradd yn cael ei ariannu'n llawn trwy grantiau gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Torfaen, gan sicrhau hygyrchedd i bob teulu am ddim.

Mae Carreg Lam hefyd yn cynnig rhaglen lawn i blant sydd eisiau trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg a/neu sydd angen cymorth ychwanegol i aros mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rydym yn falch o gefnogi mentrau fel Camu i'r Uwchradd, sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i gynyddu'r defnydd o addysg Gymraeg ledled y fwrdeistref.

"Mae'r gwaith hwn hefyd yn cyd-fynd yn agos â'n hymgyrch 'Ddim Yno Colli Allan', sy'n pwysleisio pwysigrwydd presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol. Mae Carreg Lam yn cynnig rhywbeth gwahanol - cymorth wedi'i deilwra sy'n sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i lwyddo, cadw ymgysylltiad, a theimlo cefnogaeth trwy gydol eu taith addysgol."

Am ragor o wybodaeth ewch i www.carreg-lam.com, e-bostiwch carreg-lam@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01496 762581.

Diwygiwyd Diwethaf: 16/05/2025 Nôl i’r Brig