Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 16 Mai 2025
Mae mwy na 30 o grwpiau wedi cefnogi ymgyrch newydd y Cyngor yn erbyn baw cŵn yn yr wythnos gyntaf.
Mae grwpiau gwirfoddol, clybiau chwaraeon ac ysgolion wedi cofrestru i gael pecynnau sy’n ceisio tynnu sylw at faint o faw cŵn sydd yn eu hardaloedd lleol.
Yn eu plith mae grŵp Pysgota Crow Valley, Pont 46 i Bum Loc a Chlwb Pêl-droed Iau Y Dafarn Newydd.
Meddai Kelly Jenkins o Glwb Pêl-droed Iau Y Dafarn Newydd: "Ar ôl gweld yr ymgyrch yn y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r mater hwn, gall ein clwb a'n defnyddwyr gwasanaeth uniaethu â'r mater baeddu cŵn ar ein tir ac ar y caeau chwarae.
"Rydyn ni mewn ardal ddaearyddol sy’n agored i faw cŵn, gan ei bod yn fan gwyrdd mor agored sydd â pharc chwarae. Mae llawer o drigolion yn defnyddio’r safle ac yn cerdded ar draws y safle bob dydd.
"Mae'n drist dweud ein bod ni’n dod o hyd i faw cŵn wrth archwilio’r cae chwarae cyn pob gêm a diwrnod hyfforddi a chyn bod sefydliadau lleol yn defnyddio’r cyfleusterau.
"Mae unrhyw gefnogaeth i helpu i addysgu ac atal digwyddiadau yn y dyfodol werth y byd, i sicrhau bod gennym le glân, diogel er mwyn defnyddio'n cyfleusterau."
Un arall sydd wedi cefnogi’r ymgyrch yw Clwb Pêl-droed Cwmbran Celtic a ymunodd wythnos yn ôl.
Meddai Steve Roberts, Gwirfoddolwr gyda Cwmbrân Celtic: "Rydyn ni'n ceisio gofalu am y caeau chwarae cystal ag y gallwn ni, ond mae gennym ni broblem gyda baw cŵn, a dyna pam rydyn ni'n cefnogi'r ymgyrch ‘Codwch E!’.
"Plîs, os ydych chi'n berchen ar gi, codwch y baw ci ar ei ôl ac ewch ag e’ adre i'w waredu. Does dim un o aelodau ein tîm eisiau sefyll mewn baw ci neu gwympo mewn baw ci wrth hyfforddi neu chwarae mewn gêm."
Bydd grwpiau sy'n rhan o'r ymgyrch yn cofnodi nifer yr achosion o faw ci maen nhw’n dod o hyd iddynt, a bydd y wybodaeth hon yn cael ei throsglwyddo i'n tîm gorfodi sifil.
Yn rhan o'r ymgyrch y mae’r Cyngor yn ei harwain, mae wedi creu 200 o becynnau atal baw cŵn, gan gynnwys baneri ‘Codwch E’!’. a sticeri ar gyfer biniau, stensiliau a chwistrell sialc.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr ymgyrch ‘Codwch E’!’ yn trawsnewid ein palmentydd a'n mannau cyhoeddus yn ardaloedd glanach, mwy diogel a mwy pleserus. Mae sefyll mewn baw ci yn ffiaidd a hefyd yn risg sylweddol i iechyd pobl, felly gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i wneud newid cadarnhaol.
"Gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog perchnogion cŵn i fod yn fwy cyfrifol ac i atal eu cŵn rhag baeddu."
Mae cynghorwyr lleol hefyd wedi cael pecynnau ‘Codwch E’!’.
Os ydych chi'n grŵp gwirfoddol, yn grŵp cymunedol, yn glwb chwaraeon neu’n ysgol ac eisiau ymuno â'r ymgyrch ‘Codwch E’!’, anfonwch neges trwy e-bost i pickitup@torfaen.gov.uk i gael pecyn am ddim.
Mae methu â chodi baw ci pan fydd ci wedi baeddu mewn man cyhoeddus yn drosedd ac mae yna risg o gosb o £100.
Gall perchnogion cŵn roi bagiau baw cŵn wedi'u defnyddio mewn unrhyw fin sbwriel yn y Fwrdeistref.
Gofynnwn i aelodau o'r cyhoedd gefnogi'r ymgyrch trwy riportio baw cŵn ar-lein neu drwy'r ap Fy Nhorfaen.
Ariannwyd yr ymgyrch ‘Codwch E’!’ yn rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.