Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Mai 2025
Mae grŵp cerdded iechyd a lles wedi dewis thema Diwrnod VE wrth iddynt gynnal taith gerdded i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu’r grŵp.
Yr wythnos hon, cerddodd 70 o aelodau o grŵp Ewch Am Dro Dorfaen o faes parcio tafarn y Foxhunters i bwynt trig y Blorens, ym Mlaenafon i ail-greu eu taith gerdded gyntaf yn 2005.
Ar ddiwedd y daith, fe wnaeth y grŵp, rhai ohonynt wedi gwisgo yn nillad cyfnod y 1940au ac yn chwifio baneri Jac yr Undeb, ymweld â'r Rifleman's Arms ym Mlaenafon, lle cawsant de, coffi a bwffe.
Gwylio’r daith gerdded i ddathlu 20 mlynedd
Tîm chwaraeon, iechyd a ffitrwydd y cyngor sy’n gyfrifol am redeg y grŵp a threfnu saith taith gerdded am ddim bob wythnos, sydd yn eu plith, yn cynnwys teithiau iechyd rhwng milltir a dwy filltir o hyd, a theithiau cerdded cynyddol, o rhwng tair a phum milltir.
Dywedodd Lynne Mattravers, cydlynydd: “Braf iawn oedd gweld cymaint o bobl yn ymuno â ni yr wythnos hon i ddathlu ein carreg filltir yn 20 oed. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael mwy na 2,000 o aelodau ac wedi cerdded tua 50,000 o filltiroedd – mae hynny'n gyfystyr â cherdded ddwywaith o amgylch y Byd!
“Mae llawer o bobl wedi meithrin cyfeillgarwch trwy ymuno â’r teithiau cerdded hyn ac wedi mynd ar wyliau gyda’i gilydd, ynghyd â datblygu diddordebau eraill fel ciniawau, dosbarthiadau ymarfer corff a nosweithiau allan.”
Roedd Lesa Davies, 67, ymhlith y rhai a ymunodd â’r daith gerdded ddydd Mawrth ar achlysur dathlu’r pen blwydd. Dywedodd: “Cefais wybod bod gen i gyflwr asgwrn cefn a gallwn fod yn gaeth i gadair olwyn. Es i draw i'r grŵp cerdded i weld a fyddwn i'n gallu ymuno a chefais fy nerbyn gyda breichiau agored.
“Mae cerdded o leiaf dair gwaith yr wythnos gyda ffrindiau newydd wedi fy helpu i gadw'n actif ac wedi helpu fy nghyflwr.”
Dywedodd Suzanne Walters, merch Janine Jones, 84 oed, sy'n cerdded gyda'r grŵp yn rheolaidd: "Ymunodd Mam â grŵp cerdded Lynne dros 11 mlynedd yn ôl, yn dilyn marwolaeth fy nhad.
“Mae Mam yn rhannol ddall ac ni fyddai'n gallu mynd ar y fath deithiau cerdded heb fod gyda'r grŵp a chael eu cymorth ar adegau.
“Dros y blynyddoedd, mae hi wedi cael dau ben-glin newydd, ond mae cadw’n actif a bod yn rhan o'r grŵp hwn wedi ei helpu i wella'n llawn ac yn gyflym. Mae hi wrth ei bodd â'r cwmni a'r ymarfer corff”.
Ychwanegodd Clive Sussex, 71: “Mae pob cam rydyn ni wedi'i gymryd, o'r copaon dan orchudd niwl i'r dyffrynnoedd gwyrdd dwfn, wedi bod yn daith sydd wedi bwydo fy nghorff a fy enaid.”
Gall aelodau newydd droi i fyny i ymuno â thaith cerdded neu gysylltu â Lynne ar 07908214499. I gael manylion amserau a lleoliadau, cliciwch isod i ymweld â gwefan y cyngor neu Cysylltu Torfaen.
Mae'r rhaglen hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gallu cyfeirio pobl at y grŵp.