Wedi ei bostio ar Dydd Iau 1 Mai 2025
Mae gofalwr ysgol a gymerodd y r awenau gan ei dad wedi ymddeol ar ôl bron i 44 mlynedd.
Dechreuodd Dale Philpott, 60, ei rôl fel gofalwr yn Ysgol Abersychan ym 1982 ar ôl i’w dad, Fred, ymddeol yn dilyn degawd o wasanaeth.
Yr wythnos hon, aeth y staff ati i ddathlu ar ddiwrnod olaf Dale drwy baratoi te prynhawn, rhannu atgofion, a chyflwyno Grogg o reng flaen enwog Pont-y-pŵl, ymhlith anrhegion eraill i Dale, sy’n un o’u cefnogwyr brwd.
Wrth fyfyrio ar ei gyfnod yn yr ysgol, dywedodd Dale, sydd ei hun yn gyn-ddisgybl: "Rydw i wedi gweld cymaint o newid dros y blynyddoedd, hyd yn oed pan oedd hi’n arfer bod yn ganolfan hamdden amser maith yn ôl. Mae'r ysgol wedi bod trwy gymaint, ac mae gwasanaethu yma am gymaint o amser, wir yn deimlad braf.
“Rwyf wir yn teimlo’n rhan fawr o'r ysgol ac rydw i wedi cwrdd â rhai o'r bobl fwyaf anhygoel ar hyd y ffordd. Mae'n fwy na swydd; mae wedi dod yn rhan bwysig o fy mywyd ac wedi fy ngwneud yn bwy ydw i."
Yn y rôl, roedd Dale yn gyfrifol am nifer o dasgau, yn cynnwys cynnal a chadw'r safle, ei agor a’i gau, sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel, gwneud atgyweiriadau, a helpu contractwyr ar y safle.
Ychwanegodd Dale: "Ni allaf ddiolch diogon i’r staff a fy nhîm am eu hamser a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd. Rwyf wedi ceisio cyfleu’r un gefnogaeth i bawb, yn cynnwys y myfyrwyr.
"Yr hyn sy’n golygu fwyaf yw gwybod fy mod wedi rhoi fy ngorau i'r ysgol hon. Mae’n gwneud i mi deimlo mor fodlon fy myd a gallaf adael gyda fy mhen yn uchel."
Dywedodd Rhodri Thomas, Pennaeth : "Mae Dale wedi bod yn rhan annatod o Ysgol Abersychan ers bron i dri degawd. Ymrwymodd yn llwyr i’w rôl fel gofalwr trwy gydol ei yrfa nodedig ac mae hyn wedi bod o fudd i lawer o aelodau'r gymuned sydd naill ai wedi mynychu'r ysgol neu y mae ganddynt blant sydd wedi astudio yma.
“Mae e bob amser yn cyfarch staff yn gynnar yn y boreau gyda gwên groesawgar ac rwyf innau yn bersonol wedi mwynhau llawer o sgyrsiau am ei annwyl Glwb Rygbi Pont-y-pŵl. Mae'r Llywodraethwyr, y staff a myfyrwyr Ysgol Abersychan yn dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo.”