Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025
Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a ddathlodd ei phen-blwydd yn 30 oed yn ddiweddar, yn mynd i gael ei huwchraddio mewn prosiect gwerth miliynau o bunnau.
Disgwylir y bydd y gwaith o adnewyddu Ysgol Bryn Onnen, yn Farteg, Pont-y-pŵl, yn dechrau fis Gorffennaf nesaf ac y bydd wedi’i gwblhau erbyn mis Hydref 2027.
Daeth y newyddion wrth i ddisgyblion a staff baratoi i ddathlu pen-blwydd yr ysgol, gyda pharti i ddisgyblion a chyngerdd i rieni, ddydd Iau diwethaf.
Roedd hefyd yn dilyn y newyddion nad oedd yr ysgol yn cael ei adolygu gan Estyn mwyach, yn dilyn arolygiad y llynedd.
Mewn llythyr, dywedodd yr arolygiaeth fod yr ysgol "wedi gwneud digon o gynnydd wrth fynd i'r afael â'r argymhellion" ac na fyddai monitro pellach.
Meddai’r Pennaeth, Rhys ap Gwyn: "Diolch i’r newyddion am y buddsoddiad a'r diweddariad gan Estyn roedd ein dathliadau pen-blwydd yn 30 oed hyd yn oed yn fwy arbennig.
"Rydyn ni’n edrych ymlaen at gynllunio ar gyfer y 30 mlynedd nesaf o ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg ragorol yn ein cymuned."
Meddai Dr Andrew Powles, Cyfarwyddwr Addysg: "Rwy'n falch fod Estyn wedi cydnabod y cynnydd da a pharhaus a wnaed gan Ysgol Bryn Onnen dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae tîm arwain a chorff llywodraethu'r ysgol wedi gyrru gwelliannau ar draws sawl maes ac mae hyn wedi rhoi hyder i Estyn fod yr ysgol yn cynnig addysg o safon dda i'w disgyblion."
Ychwanegodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae cael darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg gref ar draws Torfaen yn gwbl ganolog i'r ffordd yr ydym yn datblygu’r Gymraeg.
"Rydym yn falch o'r cynnydd y mae Ysgol Bryn Onnen wedi'i wneud ac yn falch fod Estyn wedi cydnabod hyn."
Bydd y cyllid ar gyfer y gwaith yn dod o grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a'r Cyngor.
Bydd arolygon safle yn cael eu cynnal yn yr ysgol dros yr haf cyn i'r cynlluniau ar gyfer y gwaith adnewyddu gael eu cadarnhau.