Cyn-bêl-droediwr o Gymru yn agor cae 3G newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 15 Gorffennaf 2025
Llantarnam 3G pitch opening

Rhoddodd y cyn-bêl-droediwr proffesiynol o Gymru, Danny Gabbadon, hyfforddiant i ddisgyblion yn ystod agoriad cae 3G newydd yng Nghwmbrân.

Ymunodd cyn-chwaraewr Dinas Caerdydd ag Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt, y Cyng. Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, a chynghorwyr ward Llantarnam yn Ysgol Gynradd Llantarnam yn gynharach heddiw.

Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys arwyneb pob tywydd â llifoleuadau, ystafelloedd newid, cytiau i’r timoedd, dau eisteddle i wylwyr a maes parcio newydd, gan gynnig lleoliad o safon uchel i ddisgyblion a thimau lleol ar gyfer hyfforddi a chystadlu.

Mae hefyd yn cynnwys murlun o Danny Gabbidon i anrhydeddu ei orchestion ar y cae pêl-droed ac fel llysgennad Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd Danny, a aeth i'r ysgol ar safle'r cae 3G: "Mae'n anhygoel gweld sut mae'r gofod hwn wedi cael ei drawsnewid. Mae'r hyn a oedd unwaith yn ardal laswelltog lle roedden ni'n chwarae ar amser egwyl bellach yn gyfleuster o'r radd flaenaf i'r disgyblion a'r gymuned ehangach.

"Mae cael arwydd yma yn cydnabod fy llwyddiannau chwaraeon yn anrhydedd go iawn. Rwy'n gobeithio y bydd yn ysbrydoli pob person ifanc sy'n camu i'r cae hwn i gredu ynddyn nhw eu hunain, gweithio'n galed, ac yn bwysicaf oll - mwynhau, pa bynnag chwaraeon maen nhw'n ei ddewis."

Cafodd ymwelwyr â'r agoriad swyddogol daith o amgylch y cyfleusterau newydd a gwylion nhw ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn ymuno â Danny ar gyfer cyfres o ymarferion pêl-droed ar y cae newydd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Anthony Hunt: "Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol arall yn ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith modern sydd o fudd i addysg a'r gymuned ehangach.

"Pan gymerais yr awenau fel Arweinydd, dim ond un cyfleuster 3G fel hyn oedd gennym yn y fwrdeistref. Nawr rydyn ni wedi agor tri newydd eleni yn unig - yma, yn Abersychan a Threfddyn.

"Rydym wedi bod yn gweithio ar sicrhau'r datblygiad hwn ers 2017, gyda chefnogaeth ac ymdrech gan yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg a chynghorwyr ward lleol.

"Bydd y cae 3G newydd yn cynnig gofod diogel, cynhwysol i ddisgyblion a chlybiau lleol hyfforddi, cystadlu a ffynnu - gan helpu i feithrin talent a hyrwyddo ffyrdd iachach o fyw."

Dywedodd Laura Perrett, Pennaeth Ysgol Gynradd Llantarnam: "Roedd yn anrhydedd fawr nodi agoriad ein cae 3G newydd heddiw. Mae'r cyfleuster gwych hwn yn ased mawr a fydd yn cyfoethogi cyfleoedd chwaraeon yn fawr i'n disgyblion a'r gymuned ehangach.

"Hoffwn ddiolch i'n corff llywodraethu a'r awdurdod lleol - yn enwedig ein cynghorwyr lleol ymroddedig - am eu gwaith diflino wrth wireddu'r prosiect hwn."

Agorodd y cae newydd i ddisgyblion heddiw a bydd ar gael i'w archebu ar-lein yn fuan. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://schoolhire.co.uk/

Ariannwyd y datblygiad ar hen gaeau chwarae Ysgol Gyfun Llantarnam gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, Chwaraeon Cymru, a phartner elusennol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Sefydliad Pêl-droed Cymru.

Mae'r cae 3G newydd yn un o bedwar yn y fwrdeistref - ochr yn ochr â rhai yn Ysgol Abersychan, Ysgol Gorllewin Mynwy ac Ysgol Gymraeg Gwynllyw.

Diwygiwyd Diwethaf: 15/07/2025 Nôl i’r Brig