Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 1 Awst 2025
Heddiw, mae trefnwyr Ras Prydain Lloyds i Ddynion wedi cyhoeddi'r 19 tîm a fydd yn cystadlu yn y ras ym mis Medi, pan fydd Pont-y-pŵl yn cynnal cymal pump yn y daith uchel ei bri.
Ymhlith y timau mae ymddangosiad cyntaf sawl un o sgwadiau buddugol y Tour de France, a’r tîm sydd yn y safle uchaf yn y byd, UAE Team Emirates – XRG.
Wrth i Gymru baratoi i gynnal cymal o'r Tour de France yn 2027, mae tri thîm ar ddeg sy'n rasio yn Ras Feicio Prydain Lloyds i Ddynion eleni hefyd wedi bod yn cystadlu yn y Tour de France yn ddiweddar - gan ennill 16 o'r 21 cymal.
Bydd naw Tîm Byd UCI haen uchaf yn cystadlu yn y ras, sy'n dechrau yn Suffolk ddydd Mawrth 2 Medi, y mwyaf sydd wedi rasio yn ras genedlaethol Prydain ers 2019.
Mae cymal pump y ras yn cychwyn o Barc Pont-y-pŵl ddydd Sadwrn 6 Medi, gyda beicwyr elît y byd yn pasio'n ôl trwy ran o'r Fwrdeistref yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Mae Lidl-Trek a Decathlon AG2R La Mondiale yn dychwelyd i'r ras ar ôl absenoldeb o sawl blwyddyn, a Groupama FDJ yw ail Dîm y Byd UCI i rasio am y tro cyntaf ym mis Medi.
Bydd pob un o'r tri thîm mwyaf llwyddiannus yn hanes fersiwn modern Ras Prydain Lloyds i Ddynion yn rhan o'r gystadleuaeth eleni, gyda Soudal Quick-Step, INEOS Grenadiers, a Team Visma | Lease a Bike wedi ennill 64 cymal rhyngddynt – tipyn o gamp.
Mae'r olaf wedi ennill Ras Prydain Lloyds i Ddynion ar bedwar achlysur (2011, 2017, 2021 a 2023), gan gynnwys y tro diwethaf iddynt gymryd rhan, gyda Wout Van Aert.
Mae tîm buddugol y llynedd, Stevie Williams, Israel – Premier Tech, yn dychwelyd fel un o wyth Uwch-dîm UCI i gystadlu yn y digwyddiad. Yn eu plith bydd trydydd carfan sy’n cystadlu am y tro cyntaf yn y digwyddiad, Tudor Pro Cycling, a allai gynnwys y cyn-enillydd Julian Alaphilippe yn eu carfan chwe beiciwr.
Ar y cyfan, bydd 12 o 17 tîm gorau'r byd, yn ôl safleoedd diweddaraf UCI (29 Gorffennaf), i’w gweld yn cystadlu ym mis Medi.
Ar ôl creu cryn argraff yn Ras Prydain Lloyds i Ddynion yn 2024 gyda'u beicio grymus a enillodd ddau ddiwrnod yn y crys pwyntiau iddynt, bydd carfan Portiwgal, Anicolour / Tien 21 yn dychwelyd, a gallai gynnwys y beiciwr Prydeinig Harrison Wood yn eu carfan chwe beiciwr.
Yr olaf o’r 19 tîm ac ail dîm Prydeinig (ochr yn ochr â INEOS Grenadiers) yn y ras fydd Tîm Beicio Prydain Fawr; tîm sydd wedi cystadlu’n gyson yn y ras genedlaethol ers 2012.
Meddai Jonathan Day, Rheolwr Gyfarwyddwr Ras Prydain Lloyds i Ddynion; "Mae'r timau sy’n cystadlu eleni yn Ras Prydain Lloyds i Ddynion gyda’r gorau rydyn ni erioed wedi'u gweld yn y ras, ac mae'n dangos statws y digwyddiad yn llygaid UCI WorldTour ar Uwch-dîmau.
"Mae’r cyffro’n cynyddu ar gyfer mis Medi, a'r hyn sy’n addo bod yn Ras Prydain Lloyds i Ddynion hynod gystadleuol. Allwn ni ddim aros i weld y timau hyn yn mynd amdani ac yn rasio trwy gymunedau ledled Cymru a Lloegr yn ein chwe chymal."
Mae'r rhestr lawn o dimau ar gyfer Ras Prydain Lloyds i Ddynion ar wefan British Cycling: https://www.britishcycling.org.uk/tourofbritain/men
Bydd cyhoeddiadau ynglŷn â’r beicwyr a’r timau yn ail hanner mis Awst wrth iddynt adeiladu at y cyfnod cyn Ras Prydain Lloyds i Ddynion.
Mae Ras Prydain Lloyds i Ddynion yn dechrau ddydd Mawrth 2 Medi yn Suffolk ac yn dod i ben yn ne Cymru – yn gyntaf gydag esgyniad dwbl o'r Tymbl, cyn y cymal olaf rhwng Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd a phrifddinas Cymru, Caerdydd, ddydd Sul 7 Medi.