Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 6 Awst 2025
Bydd ras Tour of Britain i ddynion eleni yn cyrraedd i uchafbwynt gwefreiddiol ar draws 250 cilomedr o rasio caled, gyda dros 4,000 metr o ddringo yn Ne Cymru ym mis Medi.
Dyma'r tro cyntaf i ras feicio broffesiynol fwyaf Prydain ddod i Bont-y-pŵl – a fydd yn gartref i gymal 5 y daith ddydd Sadwrn 6 Medi.
Bydd beicwyr proffesiynol gorau'r byd, gan gynnwys Geraint Thomas yn ei ymddangosiad olaf mewn ras ar y ffordd, yn mynd i'r afael â'r cymal 133.5 cilomedr (83 milltir) o Bont-y-pŵl i orffen ar y copa ger Pwll y Cipar ar y Tumble yn Sir Fynwy.
Ddiwrnod yn ddiweddarach bydd y beicwyr yn rasio cymal 112.2 cilomedr (69.8 milltir) rhwng Casnewydd a Chaerdydd, a fydd yn cynnwys ffyrdd Blaenau Gwent a Chaerffili, cyn cyrraedd Mynydd Caerffili a disgyn i Gaerdydd.
Yn gyntaf, bydd beicwyr yn cychwyn o Barc Pont-y-pŵl am 11:30am ar 6 Medi ar gyfer cymal 5 y daith, cyn mynd i Frynbuga a Chas-gwent, gyda’r cyntaf o bum esgyniad ar gyfer brenin y mynyddoedd yn Llangwm, gyda chyfartaledd o 4.7% dros ei 3.6 cilomedr.
Ar ôl Cas-gwent bydd y beicwyr yn taclo Bryn Llanddinol, ail ddringfa'r dydd, bron i bum cilomedr o hyd, ac yn mynd ymlaen i Drefynwy, ac yna’n dringo Old Ross Road ar y ffordd i'r Fenni.
Yna, bydd y ras yn dringo y Tumble am y tro cyntaf, gyda chyfartaledd o dros 8% ar draws pellter o 4.9 cilomedr, cyn disgyn yn gyflym i Flaenafon ac i lawr yr A4043, gan gyrraedd Pont-y-pŵl tua 2pm - gan roi cyfle arall i wylwyr yn Nhorfaen weld y ras.
Bydd y cymal yn dychwelyd i Frynbuga, gan droi i'r gogledd dros y Bont Gadwyn ar draws Afon Wysg, i fynd yn ôl i'r Tumble.
Ar ôl mwy na 2,330 metr o ddringfeydd yn ystod y dydd, bydd y beicwyr yn cwblhau rhuthr olaf at y llinell derfyn ar y copa, gyda disgwyl gorffen ychydig cyn 3pm.
Bydd y ras yn ailddechrau ddydd Sul 7 Medi am 11:45am o'r tu allan i Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd, ac yn mynd trwy Fwrdeistrefi Sirol Blaenau Gwent a Chaerffili, cyn gorffen yng Nghaerdydd.
Wrth sôn am y cyhoeddiadau o’r llwybrau, dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cyng. Anthony Hunt:
"Mae cynnal cymal o'r Tour of Britain yn ddigwyddiad mawreddog i'w ddod ag e i Dorfaen a bydd y nifer ychwanegol o bobl yn rhoi hwb i'n heconomi leol.
"Mae'n gyfle i drigolion a chefnogwyr seiclo ddod yn agos at athletwyr o'r radd flaenaf yn y fwrdeistref a rhoi bloedd i Geraint Thomas yn ei ras broffesiynol olaf.
"Mae hwn yn gyfle gwych i bobl yn Nhorfaen weld digwyddiad chwaraeon o'r radd flaenaf am ddim ar garreg eu drws. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r ardal ar gyfer y dechrau a'r diwedd a dangos rhai o'n tirweddau trawiadol i wylwyr teledu, gan gynnwys Parc Pont-y-pŵl a safle Treftadaeth y Byd Blaenafon."
Bydd y Tour of Britain i ddynion yn dechrau yn Suffolk, Lloegr ddydd Mawrth 2 Medi.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i Tour of Britain Men